Mwy o Newyddion

RSS Icon
24 Tachwedd 2011

Agor Canolfan Cam-drin Domestig ym Merthyr Tudful

Mae Carl Sargeant, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, wedi agor canolfan ym Merthyr Tudful ar gyfer pobl sy’n dioddef cam-drin domestig. Mae Canolfan Amlasiantaeth Teulu wedi’i hailagor yn sgil grant gwerth £329,370 gan Lywodraeth Cymru. Mae’r arian hwn wedi caniatáu i Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol Merthyr Tudful brynu’r safle presennol a’i adnewyddu.

Mae Canolfan Amlasiantaeth Teulu yn bwynt cyswllt unigol ar gyfer pobl sy’n dioddef cam-drin domestig. Ar ôl iddynt ddod i gysylltiad, bydd staff y Ganolfan yn eu cyfeirio’n uniongyrchol at yr asiantaeth briodol.

Bydd yr arian o Raglen Cyllid Cyfalaf Trais Domestig Llywodraeth Cymru yn caniatáu i Ganolfan Teulu fod yn Siop Un Stop fwy effeithiol. Bydd ganddi fwy o le a mwy o adnoddau ar gyfer gwaith amlasiantaeth, gan greu amgylchedd mwy croesawgar ar gyfer dioddefwyr a’u plant.

Dywedodd Carl Sargeant: “Mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o wneud popeth yn ei gallu i helpu pobl sy’n dioddef cam-drin domestig, ac i sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi i fyw’n ddiogel yn eu cymunedau. Mae’r Ganolfan yn darparu gwasanaeth gwerthfawr i bobl sy’n dioddef cam-drin domestig ym Merthyr Tudful a’r ardal gyfagos.

“Mae cam-drin domestig yn broblem eang sy’n gallu arwain at faterion cymdeithasol fel tlodi ac allgáu ariannol. Gall hefyd effeithio ar iechyd corfforol ac iechyd meddwl pobl.

“Y gobaith yw y bydd ein hymgyrch ddiweddaraf, Byw Heb Ofn, yn parhau i ledaenu’r neges bod cam-drin domestig yn annerbyniol ac na chaiff ei oddef. Gobeithio y bydd hefyd yn rhoi’r hyder i ddioddefwyr gamu ymlaen i ofyn am help a chefnogaeth.”

Wrth siarad ar ran Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Merthyr Tudful, dywedodd Jeff Edwards, Arweinydd y Cyngor:

“Fel Partneriaeth Diogelwch Cymunedol rydym yn ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru, sydd wedi darparu cyllid cyfalaf sylweddol. Mae’n amlwg na fyddai’r prosiect wedi digwydd heb yr arian hwn.

“Hoffem ddiolch hefyd i’r sefydliadau hynny sy’n rhan o Dîm Partneriaeth Teulu am eu gweledigaeth a’u hymroddiad. Maen nhw wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru a’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol i wella gwasanaethau ar gyfer teuluoedd sydd wedi’u heffeithio gan gam-drin domestig ym Merthyr Tudful, neu a fydd yn cael eu heffeithio yn y dyfodol.”

Rhif ffôn Llinell Gymorth Cam-drin Domestig 24 awr Cymru yw 0808 80 10 800.

Rhannu |