Mwy o Newyddion
Dyddiad cau cyntaf Bro Morgannwg yn prysur agosau
Dim ond dyddiau sydd i fynd cyn y dyddiad cau ar gyfer cystadlaethau cyntaf Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg.
Os ydych chi’n awyddus i gystadlu am y Fedal Ryddiaith neu Wobr Goffa Daniel Owen yn 2012, rhaid i bopeth gyrraedd Swyddfa’r Trefnydd erbyn 1 Rhagfyr. Ceir manylion ar sut i gystadlu yn y Rhestr Testunau, sydd ar werth mewn siopau ar draws Cymru, a gellir ei lawrlwytho’n rhad ac am ddim o wefan yr Eisteddfod – www.eisteddfod.org.uk.
Yn 2012, rhoddir y Fedal Ryddiaith am gyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau, sy’n delio â phwnc ‘Mudo’. Rhoddir y Fedal a’r wobr ariannol o £750 gan Janet a Glenda a’r teulu i gofio am Bill a Megan James. Beirniaid y gystadleuaeth eleni yw Gwerfyl Pierce Jones, Aled Islwyn a Fflur Dafydd
Nofel heb ei chyhoeddi gyda llinyn storïol cryf a heb fod yn llai na 50,000 o eiriau sydd ei hangen ar gyfer Gwobr Goffa Daniel Owen. John Rowlands, Gareth F Williams a Sioned Williams yw’r beirniaid yn 2012.
Meddai Trefnydd yr Eisteddfod, Hywel Wyn Edwards, “Dyma’r ddwy gystadleuaeth sy’n dangos bod yr Eisteddfod ar ei ffordd. 1 Rhagfyr yw’r dyddiad cau cyntaf ar gyfer cystadlaethau bob blwyddyn, ac ar ôl hynny, mae popeth yn digwydd yn eithaf sydyn.
“Y dyddiad pwysig nesaf yw 31 Ionawr, a dyma’r dyddiad cau ar gyfer y cystadlaethau cyfansoddi drama ac enwebiadau ar gyfer Medal Goffa Syr T H Parry-Williams a’r Fedal Wyddoniaeth a Thechnoleg. Mae’r manylion i gyd ar gael yn y Rhestr Testunau ac ar ein gwefan, felly pob hwyl wrth gystadlu ac enwebu.”
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg o 4-11 Awst ar dir hen faes awyr Llandw. Am ragor o fanylion ewch i www.eisteddfod.org.uk.