Mwy o Newyddion
Adroddiad newid hinsawdd yn broc i Lywodraeth Cymru
Dylai adroddiad gan y Cenhedloedd Unedig a ryddhawyd ddydd Mercher, sy’n dangos bod ymdrechion byd-eang i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ymhell o’r hyn ddylen nhw fod, brocio Llywodraeth Cymru i gynyddu cynhyrchu ynni adnewyddadwy, yn ôl WWF Cymru.
Cafodd yr adroddiad, Bridging the Emissions Gap, ei gyhoeddi gan un o brif awdurdodau’r byd ar faterion amgylcheddol, Rhaglen Amgylcheddol y Cenhedloedd Unedig (UNEP).
Mae’r ddogfen, a ryddhawyd cyn trafodaethau’r byd ar yr hinsawdd yr wythnos nesaf yn Durban, De Affrica, yn dangos bod y byd yn debyg o weld lefelau peryglus iawn o newid yn yr hinsawdd os na chymerwn gamau penderfynol ar unwaith.
Ond mae’n cadarnhau y gallwn fynd ar y llwybr iawn o hyd, os symudwn yn gyflym i atal datgoedwigo a newid i ynni adnewyddadwy.
Meddai Anne Meikle, Pennaeth WWF Cymru: "Dylai’r adroddiad hwn fod yn rhybudd i arweinwyr y byd ac yn broc i Lywodraeth Cymru. Mae’n dangos bod y byd yn debyg o weld lefelau peryglus iawn o newid yn yr hinsawdd os na chymerwn gamau penderfynol ar unwaith, ond mae hefyd yn cadarnhau y gallwn fynd ar y llwybr iawn o hyd.
“Mae gennym gyfle i sicrhau newid mawr o danwyddau ffosil ac i ynni adnewyddadwy glân. Ond rydyn ni angen i Lywodraeth Cymru osod targedau clir a chynlluniau clir i harneisio’r ynni hwn. Hefyd rydyn ni eisiau i lywodraeth Carwyn Jones gadw at ei hymrwymiad i fesur nid yn unig yr allyriadau rydyn ni’n eu creu yma yng Nghymru, ond hefyd y CO2 sy’n cael ei gynhyrchu o gynhyrchu’r nwyddau rydyn ni’n eu prynu o wledydd tramor.”
Canfu’r adroddiad bod angen i allyriadau byd-eang yn 2020 gael eu lleihau i 44 gigadunnell (44 biliwn o dunelli) o gyfwerth â charbon deuocsid – llawer is na’r lefelau presennol – er mwyn rhoi siawns “debygol” o gadw cynhesu’n is na 2°C. Fodd bynnag, hyd yn oed os caiff addewidion mwyaf uchelgeisiol llywodraethau eu gweithredu’n llawn, bydd yr allyriadau 6 gigadunnell yn uwch na’r lefel hon – bron cyfwerth â’r allyriadau blynyddol o’r Unol Daleithiau.
Yn bwysig iawn, mae UNEP hefyd yn dod i’r casgliad bod modd cau’r bwlch erbyn 2020 o hyd a chadw lefelau cynhesu’n is na 1.5 neu 2°C trwy effeithlonrwydd ynni, hybu ynni adnewyddadwy, lleihau datgoedwigo a gwella arferion amaethyddol.
Y mis diwethaf, canfu adroddiad WWF ‘Positive Energy’ ei bod yn bosibl gostwng allyriadau nwyon tŷ gwydr yn fawr a chynnal cyflenwad ynni diogel heb orfod cael gorsafoedd pŵer niwclear newydd, os byddwn yn canolbwyntio’n gryf ar ynni adnewyddadwy ac effeithlonrwydd ynni. Datgelodd y gallai ffynonellau ynni adnewyddadwy gyflenwi rhwng 60% a 90% o alw’r Deyrnas Unedig am drydan erbyn 2030.
Mae Llywodraeth Cymru’n honni bod gan Gymru’r potensial i gynhyrchu o ffynonellau adnewyddadwy, erbyn 2025, hyd at ddwywaith y trydan a ddefnyddiwn heddiw,. Mae WWF-Cymru’n pwyso ar Lywodraeth Cymru i osod cynllun gweithredu clir ar gyfer harneisio’r adnoddau anferth hyn.
Meddai Keith Allott, pennaeth newid hinsawdd WWF-UK: "A bod yn realistig, nid oes neb yn disgwyl i lywodraethau gau’r bwlch hwn yn llawn yn Durban. Ond man lleiaf rhaid iddynt beidio â gwneud y bwlch yn fwy byth trwy gytuno ar reolau gwan ar gyfrifo carbon – rydyn ni mewn twll dwfn eisoes, ac mae’n bryd rhoi’r gorau i gloddio."
Ar sail yr adroddiad, gall pob gwlad, ac mae’n rhaid i bob gwlad, wneud mwy i gau’r “blwch gigadunnell”, meddai WWF. Rhaid rhoi blaenoriaeth i wneud gweithredoedd gwledydd datblygedig yn fwy credadwy, trwy gau’r bylchau cyfrifo a chodi’r uchelgais i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd yn unol â’r dystiolaeth wyddonol.