Mwy o Newyddion

RSS Icon
24 Tachwedd 2011

To newydd i gartref Hedd Wyn

A hithau’n 60 mlwyddiant Parc Cenedlaethol Eryri eleni, mae gwaith adnewyddu hanfodol i gartref un o 60 o Ryfeddodau Eryri ar fin cychwyn.

Mynegwyd pryder dro yn ôl am gyflwr to’r “Ysgwrn” ger Trawsfynydd, ond gyda chydweithrediad parod y perchennog Gerald Williams, Cadw a staff Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, llwyddwyd i benderfynu ar y ffordd orau ymlaen i’w ddiogelu.

Ar ran Awdurdod y Parc Cenedlaethol, dywedodd y Cyfarwyddwr Rheoli Tir, Emyr Williams: “A ninnau’n dathlu’n 60 mlwyddiant y Parc Cenedlaethol eleni, mae’n addas ein bod ni a’n partneriaid yn gallu cynnig cymorth i ddiogelu to’r Ysgwrn fel hyn. Bu ar restr o adeiladau mewn peryg o fewn y Parc Cenedlaethol ers peth amser, a chan ei fod yn gartref i un o 60 o Ryfeddodau Eryri, sef Cadair Ddu Hedd Wyn, mae’n braf ein bod ni fel Awdurdod, gyda chymorth ariannol hael gan Cadw, yn gallu diogelu to’r adeilad arwyddocaol yma.”

Bydd y gwaith adnewyddu yn cynnwys gosod scaffold a phabell fawr dros y ffermdy er mwyn amddiffyn tu mewn y tŷ wedi i’r to gwreiddiol gael ei dynnu ac i ganiatáu gosod y to newydd. Penodwyd Eric Edwards, pensaer o Drawsfynydd a chontractwyr lleol TIR o Benrhyndeudraeth i ymgymryd â’r gwaith.

Ychwanegodd y perchennog, a nai Hedd Wyn, Gerald Williams: “Mae cyflwr y to wedi bod yn bryder i mi ers blynyddoedd bellach, ac rwyf yn eithriadol o falch o gymorth y Parc Cenedlaethol a Cadw i atgyweirio’r hen do. Mae’n mynd i fod yn olygfa ddifyr gweld y babell dros y tŷ tra bydd yr hogia yn gweithio arno.”

Disgwylir i’r gwaith adnewyddu ddechrau ar Dachwedd 28ain a bydd yn parhau am oddeutu 4 mis. Yn y cyfamser, oherwydd rhesymau iechyd a diogelwch, bydd yr adeilad ar gau i’r cyhoedd, oni bai fod trefniadau ymweld wedi eu cadarnhau eisoes.

Rhannu |