Mwy o Newyddion

RSS Icon
24 Tachwedd 2011

Cyllid ar gyfer amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd

Mae Huw Lewis, y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, wedi cyhoeddi y cylch diweddaraf o gynlluniau grant ar gyfer amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd Cymru.

Mae’r Gweinidog yn gwahodd ceisiadau ar gyfer cylch 2012-13 Llyfrgelloedd y cynllun grant cyfalaf Dysgu Cymunedol, sy’n werth £1.25 miliwn, ac ar gyfer Arloesi a Datblygu, y cynllun refeniw £1.58 miliwn ar gyfer amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd.

Mae grantiau o’r cynllun cyfalaf yn cael eu defnyddio i foderneiddio adeiladau llyfrgelloedd cyhoeddus ledled Cymru. Nod y cynllun refeniw yw datblygu’r cyfoeth o gasgliadau amrywiol sydd i’w cael mewn amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd, yn ogystal â hyrwyddo mynediad iddynt, ac annog pobl i’w defnyddio.

Bydd y Gweinidog yn gwneud cyhoeddiad am y cyllid wrth iddo ymweld â Llyfrgell Bargoed heddiw. Roedd y llyfrgell eisoes wedi derbyn £279,690 o grant dan y cynllun Llyfrgelloedd Dysgu Cymunedol o dan gylch cyllid blaenorol.

Cafodd y ganolfan newydd aml-ddefnydd, sydd wedi costio £3.4 miliwn, ei datblygu yn adeilad Capel y Bedyddwyr Hanbury Road. Mae’n cynnwys caffi, man ar gyfer addoli, ardal ar gyfer gwasanaethau i gwsmeriaid a nifer o ardaloedd sy’n cynnig adnoddau llyfrgell. Yn ogystal â’r prif gasgliad, mae’r ganolfan yn cynnig gwasanaethau i’r teulu, gwybodaeth am hanes lleol, ac ardal arddangos. Mae cyfleusterau i bobl ifanc yn cynnwys ardal i’r plant, lolfa i’r rheini yn eu harddegau a lle iddynt astudio, a gwasanaethau cymorth ysgol a gwaith cartref.

Dywedodd Huw Lewis: “Mae’r ddau gynllun yn cynnig cymorth gwerthfawr i’n hamgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd, ac yn eu helpu i ddatblygu eu gwasanaethau, gwella eu cyfleusterau ac annog y cyhoedd i wneud mwy o ddefnydd ohonynt.

“Bydd y gwaith adeiladu sy’n gysylltiedig â’r prosiectau cyfalaf hefyd yn cefnogi contractau cyflogaeth tymor byr yn y diwydiant. Mae cyfleoedd ar gael yn y llyfrgell i bobl ddysgu sgiliau newydd a gwella eu cyfleoedd i gael swyddi hirdymor.

“Mae prosiect Hanbury Road yn enghraifft wych o Is-adrannau Llywodraeth Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â gwasanaethau llywodraeth leol a Chymdeithas Tai i ddiogelu dyfodol un o’n hadeiladau hanesyddol. Mae’r tu mewn i’r adeilad wedi’i drawsnewid yn gyfleuster cymunedol sy’n ganolog i’r gwaith o adfywio Bargoed.”

Yn ogystal â’r grant, derbyniodd datblygiad Llyfrgell Hanbury Road £92,125 gan Cadw, asiantaeth Llywodraeth Cymru sy’n gofalu am amgylchedd hanesyddol Cymru, a chafodd £750,000 ei ddarparu gan raglen Ardal Adfywio Blaenau’r Cymoedd. Cafodd arian ei neilltuo ar gyfer y prosiect hefyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, a Chymdeithas Tai Unedig Cymru, a oedd yn gyfrifol am wireddu’r prosiect.

Yn ôl Ian Gilbert, Cadeirydd Cymdeithas Tai Unedig Cymru: “Canlyniad cydweithio hynod o lwyddiannus rhwng amryw o bartneriaid yw’r adeilad hwn. Nid oes amheuaeth bod addasu capel a gafodd ei adeiladu ym 1906 yn gyfleuster modern ar gyfer y gymuned, gan gadw hanes a chymeriad yr adeilad ar yr un pryd, wedi bod yn her.

“Rydyn ni wedi derbyn llawer o gefnogaeth yn ystod y prosiect gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Mae Capel Hanbury Road yn enghraifft arbennig o weithio mewn partneriaeth, gan gyflawni canlyniadau sylweddol er budd ein cymunedau.”

Mae’r ddau gynllun yn cael eu gweinyddu gan CyMAL, Gwasanaeth Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Llywodraeth Cymru. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 23 Ionawr 2012.

Llun: Huw Lewis

Rhannu |