Mwy o Newyddion

RSS Icon
24 Tachwedd 2011

Cyflenwi 200 o gartrefi

Mae un o'r cynlluniau mwyaf yn y Deyrnas Unedig o ran cynhyrchu ynni o baneli haul ar doeon wedi cael ei osod ym Mharc Busnes Llanelli.

Mae cyfanswm o 1,648 o fodylau haul sydd ar ben hen ddepo storio'r Weinyddiaeth Amddiffyn yn Llangennech yn cynhyrchu digon o ynni i gyflenwi 200 o gartrefi, ac ar yr un pryd maent yn arbed oddeutu 200 o dunelli o allyriadau CO2.

Eiddo R&A Properties, sef cwmni logisteg a thechnoleg sy'n arbenigo mewn storfeydd busnes diogel, yw'r adeilad. Yn 2009 y daeth y cwmni'n gyfrifol am yr eiddo y bu Cyngor Sir Caerfyrddin yn berchen arno gynt.

Sefydlodd y cwmni bartneriaeth â Scottish and Southern Energy Solutions (SSE), sy'n berchen ar gwmni SWALEC, i ddarparu'r system 387kWp.

Y datblygiad, a osodwyd cyn pen tair wythnos ar ôl iddo gael ei gomisiynu, yw'r diweddaraf mewn ystod o fuddsoddiadau sylweddol y mae R&A Properties wedi'i wneud ar y safle i ddenu cleientiaid sy'n gwmnïau o'r radd flaenaf ac yn Fentrau Bach a Chanolig eu Maint.

Mae'r datblygiad wedi denu sylw llawer – gan gynnwys Graham Henry, hyfforddwr carfan rygbi Seland Newydd a enillodd Gwpan y Byd , sy'n ymweld â Chymru cyn gêm y Barbariaid yr wythnos nesaf.

Gwnaeth ymdrechion R&A Properties i wneud parc busnes Llangennech mor gynaliadwy yn amgylcheddol ag y bo modd argraff dda arno.

Meddai Nigel Lovering, Rheolwr-gyfarwyddwr R&A Properties: “Gellir priodoli llwyddiant y prosiect i gyfuniad o frwdfrydedd, galluogrwydd a phenderfyniad pawb sy'n ymwneud ag ef, sef SSE, Cyngor Sir Caerfyrddin ac R&A Properties.

“Yn ogystal â gwella ein henw da am weithredu’n gydnaws â’r amgylchedd, bydd y budd i'n cwsmeriaid presennol a’n darpar gwsmeriaid o ran costau ynni yn sylweddol.

“Mae hyn eto fyth yn amlygu uchelgais ac ymroddiad R&A i wella rhagolygon y safle, gyda'r nod o weddnewid ymhellach y cyfleuster hwn yn Llangennech, a gafodd ei adael yn segur ar un adeg, yn ganolfan fusnes sy'n ffynnu unwaith yn rhagor, gan ychwanegu gwerth gwirioneddol i economi lleol a chenedlaethol Cymru.”

Dywedodd Mr Lovering fod R&A Properties wedi dewis ffurfio partneriaeth â SSE Energy Solutions oherwydd ei allu llwyr yn fewnol i gyllido, dylunio, cyflenwi a gosod datrysiad parod sy’n gyflawn.

Y gobaith yw y bydd y bartneriaeth lwyddiannus yn arwain at brosiectau eraill ar y safle a fydd yn rhai sy'n ymwneud ag ynni'r haul, gyda'r nod o ddarparu 350kWp yn ychwanegol o ynni.

Dywedodd Mark James, Prif Weithredwr Cyngor Sir Caerfyrddin: “Mae hyn yn ffordd o feddwl arloesol gan R&A Properties – yn arbennig oherwydd bod y paneli haul ar y to sy'n golygu na all neb eu gweld, ond sydd eto'n gallu cynhyrchu gwerth miloedd o bunnoedd o ynni glân, a ddefnyddir ar y parc busnes i ysgogi diwydiant.  Mae'r busnesau a'r amgylchedd ar eu hennill.”

Mae'r tenantiaid ar safle Llangennech yn cynnwys y sector cyhoeddus, cleient amddiffyn rhyngwladol a chyflenwr haen gyntaf i’r diwydiant awyrofod, gyda chynlluniau i ddod o hyd i ragor o gleientiaid ar sail y datblygiad ynni newydd.

Ychwanegodd Mr Lovering: “Ni allai'r prosiect cyfan fod wedi mynd rhagddo heb gamau cynllunio cadarnhaol a chyfrifol Cyngor Sir Caerfyrddin, yn enwedig Dave Gilbert, y Cyfarwyddwr Adfywio a Hamdden, ynghyd â thîm cynllunio a sylweddolodd y cyfle a allai ddod i’r economi lleol yn sgil y buddsoddiad hwn.”

Rhannu |