Mwy o Newyddion
Cadw’n gynnes a chadw’n iach y gaeaf hwn
Mae Cyngor Gwynedd yn cefnogi’r ymgyrch genedlaethol Gofal Pia Hi y Gaeaf Hwn sy’n galw ar bobl hŷn i baratoi ar gyfer y gaeaf gan fod gwaeledd, damweiniau a marwolaethau ar gynnydd ymysg pobl hŷn pan fo’r tywydd yn oer.
Bwriad yr ymgyrch yw sicrhau fod pobl hŷn - yn ogystal â’u ffrindiau a’u teuluoedd - yn cymryd camau syml megis gwneud yn siŵr fod eu cartrefi wedi eu gwresogi; eu bod yn ffeindio allan am y cymorth a’r gwasanaethau sydd ar gael iddynt ac yn hel bwydydd a nwyddau angenrheidiol eraill yn barod am y gaeaf.
Y Cynghorydd John Wyn Williams sy’n gyfrifol am faterion pobl hŷn ar Gyngor Gwynedd. Dywedodd: “Mae’n ddychrynllyd meddwl fod y gaeaf yn gallu bod yn anodd i rai o’r bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas. Gall y tywydd oer ynghyd â thlodi tanwydd arwain at bob math o broblemau - gall waethygu cyflyrau meddygol sy’n bodoli eisoes fel broncitis ac angina neu mewn achosion difrifol arwain at hypothermia.
“Byddem yn cynghori pobl i wneud yn siŵr fod eu cartrefi wedi eu gwresogi, neu o leiaf y prif ystafelloedd sy’n cael eu defnyddio fwyaf. Mae’n bwysig fod pobl yn gwisgo yn briodol a chynnes, yn enwedig wrth fynd allan ac mae’n bwysig eu bod yn bwyta o leiaf un pryd bwyd poeth y dydd.
“Mae’n bwysig fod pobl hŷn yn cael pigiad ffliw, yn enwedig y rheiny sy’n dioddef o waeledd tymor hir – dylai pawb drafod hyn gyda’u meddyg.
“Byddwn hefyd yn cynghori pobl hŷn i sicrhau fod ganddynt storfa o fwydydd sy’n cadw’n hir er enghraifft tuniau bwyd, bwyd sych neu fwyd wedi ei rewi. Golygai hyn y gall pobl aros i mewn os ydym yn cael cyfnod o dywydd garw, fel yr eira trwm a rhew a gawsom y llynedd.”
Mae’r ymgyrch yn cael ei gefnogi gan y Parchedig Ganon Martin Riley, Cadeirydd Cyngor Pobl Hŷn Gwynedd, ac ef a’i wraig Beryl sydd yn y llun a ddefnyddir ar boster yr ymgyrch.
Meddai: “Mae gan bawb rôl i’w chwarae yn sicrhau fod pobl hŷn yn byw’n iach dros y gaeaf. Byddwn yn galw ar bobl i wneud yn siŵr fod eu perthnasau, ffrindiau neu gymdogion yn cymryd gofal. Yn anffodus gall rhai pobl hŷn a bregus ddioddef o unigrwydd os ydynt yn aros yn y tŷ fwy yn ystod misoedd y gaeaf.”
Os ydych yn cael trafferth gyda’r gost o wresogi eich cartref efallai eich bod yn gymwys am grant, budd-daliadau neu gyngor ar sut i wneud eich cartref yn fwy effeithlon neu gymorth gyda’ch biliau ynni. Am fwy o wybodaeth am eich hawliau, neu unrhyw bryderon eraill sydd gennych am effeithiau’r tywydd oer, cysylltwch â swyddfa Cyngor Ar Bopeth ar 0845 540 3064 neu 08444 772020 neu Age Cymru Gwynedd & Môn ar 01286 677711.