Mwy o Newyddion
Arolwg cydraddoldeb
Mae cyflogaeth yn amlwg yn broblem allweddol ym marn ymatebwyr i arolwg ar gydraddoldeb gan Lywodraeth Cymru, meddai’r Gweinidog Cydraddoldeb, Jane Hutt heddiw.
Mae’r arolwg Rhoi’r Ddeddf Cydraddoldeb ar waith yng Nghymru – a gynhaliwyd ers 24 Hydref ac sy’n dod i ben ar 2 Rhagfyr – yn gofyn i bobl a ydyn nhw’n teimlo eu bod yn cael triniaeth annheg oherwydd pethau fel hil, rhywedd neu anabledd.
Hyd yn hyn mae’r ymatebwyr wedi rhoi cyflogaeth yn uwch ar y rhestr na phethau fel iechyd, tai, addysg, trafnidiaeth a throseddu fel yr hyn sy’n fwyaf tebygol o fod yn sail ar gyfer gwahaniaethu yn eu herbyn – yn arbennig oherwydd eu hoedran neu rywedd.
Hefyd, mae addysg yn uchel ar restr yr ymatebwyr cyntaf – er gwaethaf eu cefndir mae’r rhai sydd wedi cymryd rhan yn dweud y gall crefydd neu hil person fod yn rhwystr wrth geisio cael mynediad i addysg.
Roedd cytundeb cryf mai trafnidiaeth a chyflogaeth oedd yn peri’r pryder mwyaf i bobl anabl.
Mae’r arolwg Rhoi’r Ddeddf Cydraddoldeb ar waith yng Nghymru – a gynhaliwyd ers 24 Hydref ac sy’n dod i ben ar 2 Rhagfyr – yn gofyn i bobl a ydyn nhw’n teimlo eu bod yn cael triniaeth annheg oherwydd pethau fel hil, rhywedd neu anabledd.
Mae Llywodraeth Cymru’n holi pobl Cymru am enghreifftiau o unrhyw adeg y mae eu rhywedd, hil, crefydd neu gredo, cyfeiriadedd rhywiol, oedran, bod yn feichiog, yn anabl neu’n drawsrywiol wedi gwneud gwahaniaeth i’r ffordd y maent wedi cael eu trin yn eu bywyd bob dydd.
Bydd y canlyniadau terfynol yn helpu Llywodraeth Cymru i roi’r Ddeddf Cydraddoldeb ar waith. O dan y Ddeddf hon mae’n rhaid i ystod eang o wasanaethau cyhoeddus fel ysgolion, colegau, clinigau meddygon teulu a chanolfannau hamdden y cynghorau drin pawb yn deg a sicrhau eu bod yn hygyrch.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi dewis mynd un gam ymhellach na Llywodraeth y DU wrth roi’r Ddeddf Cydraddoldeb ar waith drwy ddeddfu bod gofyn i’r holl awdurdodau cyhoeddus gyhoeddi cyflogau eu gweithwyr er mwyn gweld a oes bwlch rhwng cyflogau menywod a dynion, a rhoi ystyriaeth i gydraddoldeb wrth gaffael nwyddau.
Dywedodd y Gweinidog Cydraddoldeb Jane Hutt: “Mae’r arolwg hwn yn dangos bod cyflogaeth yn flaenoriaeth uchel i bobl. Maent yn poeni’n fawr mai rhai grwpiau penodol fel pobl ifanc sy’n cael eu heffeithio gwaethaf yn yr hinsawdd ariannol gyfredol - dyna pam y bydd y Llywodraeth hon yn parhau i weithio’n galed i helpu pobl i ddod o hyd i swyddi ac yn sicrhau bod cyflogaeth a’r economi wrth wraidd ein gwaith.
“Mae’n amlwg hefyd fod pobl yn teimlo eu bod nhw ac eraill yn dal i gael eu trin yn wahanol oherwydd eu cefndir wrth iddynt geisio cael mynediad i addysg a hyfforddiant, gwasanaethau iechyd, tai ac amddiffyn rhag troseddau. Diben y Dyletswyddau Cydraddoldeb Penodol i Gymru yw ceisio newid hyn.”
Llun: Jane Hutt