Mwy o Newyddion
Cynlluniau tywydd garw
Mae Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau Carl Sargeant wedi disgrifio sut mae Llywodraeth Cymru, ynghyd â sefydliadau sector cyhoeddus a phreifat, wedi bod yn cynllunio i sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn barod ar gyfer y posibilrwydd o dywydd garw y gaeaf hwn.
Mae Cymru wedi profi tywydd garw iawn yn ystod y ddau aeaf diwethaf, gyda chyfuniad o dymheredd isel iawn a chawodydd eira trwm yn amharu ar wasanaethau ledled y wlad. O gofio natur anwadal tywydd y gaeaf, seiliwyd y cynlluniau ar gyfer Cymru ar y sefyllfa waethaf bosib er mwyn sicrhau na fydd gormod o darfu’n digwydd i wasanaethau yn ystod tywydd difrifol o’r fath.
Cadarnhaodd y Gweinidog y bydd Cymru’n dechrau’r tymor gyda stociau uwch o halen nag a welwyd erioed o’r blaen.
Dywedodd: “Rydym wedi bod yn cydweithio â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i gasglu manylion am lefelau’r halen a ddefnyddiwyd gan bob awdurdod lleol yng Nghymru dros y chwe gaeaf diwethaf. Ar ddechrau’r tymor pennwyd ffigur targed y stociau halen ar gyfer pob awdurdod lleol fel un waith a hanner eu defnydd o halen ar gyfartaledd dros y cyfnod hwnnw. Er mwyn sicrhau ei bod yn hawdd cael gafael ar y stociau halen ar draws Cymru, caiff stociau wrth gefn eu datblygu a’u lleoli yn y Gogledd, y Canolbarth a’r De, ynghyd â stociau ychwanegol yn ysguborion yr M4.”
Mae gwefan Traffig Cymru, a gaiff ei lansio yr wythnos hon ar ei newydd wedd, yn cynnwys dolenni gwell at wefannau awdurdodau lleol er mwyn cael gwybodaeth leol, dolenni gwell at ddarparwyr gwybodaeth am y tywydd, datblygiad parhaus o ardal sy’n cynnig gwybodaeth benodol ar gyfer cludwyr nwyddau, a thudalen yn rhoi canllawiau am yrru yn y gaeaf.
Tynnodd y Gweinidog sylw hefyd at nifer o ymgyrchoedd sydd wedi’u trefnu i leihau’r pwysau ar y gwasanaethau iechyd, gan gynnwys Gofal Piau Hi y Gaeaf Hwn, Dewis Doeth ac ymgyrch frechu yn erbyn y ffliw.
O ran cau ysgolion, yn ystod yr hydref/gaeaf diwethaf cyhoeddodd Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ganllawiau ar y cyd yn rhoi cyngor i ysgolion ar p’un a ddylid aros ar agor neu gau yn ystod tywydd garw iawn. Mae’r canllawiau hyn yn dal yn gyfredol ac yn cynnwys asesiad risg cyffredinol y mae modd ei addasu ar gyfer amgylchiadau pob ysgol ac sy’n cynnwys enghreifftiau o’r problemau y gall ysgolion ddod ar eu traws, gydag awgrymiadau ar sut i fynd i’r afael â nhw.
Yn ogystal â hyn, ym mis Medi 2010 cyflwynwyd codau cofnodi absenoldeb newydd sy’n golygu nad effeithir ar ystadegau presenoldeb yr ysgol bellach pe bai’n cael ei gorfodi i gau hanner ffordd drwy’r diwrnod ysgol.
Nododd y Gweinidog hefyd sut y bydd cynllun tlodi tanwydd ‘Nyth’ Llywodraeth Cymru’n helpu i gadw pobl yn gynnes y gaeaf hwn ac yn lleihau eu biliau tanwydd.
Ychwanegodd Carl Sargeant: “Er gwaethaf holl ymdrechion diflino’r rhai sy’n ymwneud â gwasanaethau’r gaeaf, yn ystod tywydd garw gall yr amodau teithio mewn rhai ardaloedd fod yn anodd o hyd. Nid oes modd gwarantu y bydd y ffyrdd yn rhydd o iâ, a bydd angen cymryd gofal. Mae tudalennau’r gaeaf ar wefan Llywodraeth Cymru’n rhoi gwybodaeth am ragolygon y tywydd, trafnidiaeth, cau ysgolion, gwasanaethau lleol ac iechyd. Caiff y rhain eu diweddaru yn ôl yr angen drwy gydol y gaeaf.”