Mwy o Newyddion

RSS Icon
24 Tachwedd 2011

Canu am reolau’r ffordd fawr

I gydfynd gydag Wythnos Genedlaethol Diogelwch Ffyrdd mae Uned Diogelwch Ffyrdd Cyngor Gwyned wedi lansio addasiad newydd o CD Caneuon Carys Ofalus gyda’r gantores boblogaidd Meinir Gwilym a lleisiau disgyblion Ysgol y Gelli.

Mae'r pecyn llyfr / CD yn cynnwys wyth cân gyda phob un yn trin agweddau gwahanol o ddiogelwch y ffyrdd. Bydd Cyngor Gwynedd yn dosbarthu pecynnau i holl ysgolion cynradd ac ysgolion arbennig Gwynedd yn yr wythnosau nesaf.

Carys Ofalus yw cymeriad diogelwch ffyrdd Cyngor Gwynedd sy’n annog plant i ddilyn rheoliadau diogelwch y ffordd. Mae Carys y gath wedi bod yn crwydro ysgolion y sir ers peth amser yn codi ymwybyddiaeth am beryglon y ffordd.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Roberts, Arweinydd Portffolio Amgylchedd Cyngor Gwynedd: "Mae sicrhau fod disgyblion ifanc Gwynedd yn dysgu am reolau'r ffordd fawr yn allweddol bwysig, ac rydym yn gobeithio trwy ddysgu mewn ffordd hwyliog a gwahanol fel hyn fod y plant yn cofio'r rheolau pwysig.

"Rydym yn falch iawn fod Meinir Gwilym yn rhan o’r CD newydd a bod cyfle i'r disgyblion ganu am reolau sy'n eu hatgoffa o bwysigrwydd cymryd pwyll a bod yn ddiogel. Mae dysgu rheolau syml fel hyn yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i ddiogelwch y plant ar y ffordd."

Mae CD Rom, cryno ddisg o gerddoriaeth a gwefan ar gael sy’n adrodd hynt a helynt Carys wrth iddi ddysgu plant sut i ddefnyddio’r ffordd yn ddiogel. I weld y wefan ewch i www.dyffgwynedd.net

 

LLUN: Disgyblion Ysgol Y Gelli, Caernarfon gyda Carys Ofalus a Meinir Gwilym

Rhannu |