Mwy o Newyddion

RSS Icon
23 Tachwedd 2011

Ailbenodi Ymddiriedolwyr Bwrdd Ymddiriedolwyr Amgueddfa Cymru

Mae'r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, Huw Lewis, a Llywydd Amgueddfa Cymru, Elisabeth Elias, wedi cyhoeddi bod pum ymddiriedolwr o Fwrdd Ymddiriedolwyr yr Amgueddfa wedi'u hailbenodi.

Caiff Carole-Anne Davies, Miriam Griffiths, Gareth Wyn Jones a Christina Macaulay eu hailbenodi gan y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth. Yr Amgueddfa sydd wedi ailbenodi Jonathan Osmond. Daw eu telerau a'u hamodau i ben ar 31 Hydref 2011 ac mae pob un ohonynt wedi cytuno i wasanaethu'r Bwrdd am dymor arall, o 1 Tachwedd 2011 hyd 31 Hydref 2015.

Dywedodd Huw Lewis: "Rwy'n falch iawn y bydd yr Ymddiriedolwyr hyn yn parhau i wasanaethu Bwrdd Ymddiriedolwyr yr Amgueddfa am bedair blynedd arall. Mae pob un ohonynt wedi gwneud cyfraniad amhrisiadwy i holl weithgareddau amrywiol yr Amgueddfa."

Dywedodd Elisabeth Elias: "Rwy'n falch iawn fod y pum hyn yn gallu gwasanaethu'r Amgueddfa am bedair blynedd arall a'u bod yn barod iawn i wneud hynny. Mae hyn yn sicrhau dilyniant a phrofiad gwerthfawr iawn ar gyfer y Bwrdd."

Carole-Anne Davies yw Prif Weithredwr Comisiwn Dylunio Cymru sef y corff cyhoeddus arbenigol ac annibynnol sy'n hyrwyddo ar lefel genedlaethol dylunio da o fewn yr amgylchedd adeiledig. Mae hi wedi gweithio ym maes uwch reoli ers sawl blwyddyn. Arferai weithio fel ymgynghorydd i Weithrediaeth yr Alban ac mae hi hefyd yn aelod o Fwrdd Cynghori Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd. Mae hefyd yn cyfrannu ar lefel broffesiynol yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru o bryd i'w gilydd. Enillodd Wobr Cymraes y Flwyddyn ym maes y Celfyddydau a'r Cyfryngau yn 2005 ac mae'n Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol er hybu’r Celfyddydau, Gweithgynhyrchion a Masnach (RSA). Nid yw'n meddu ar unrhyw benodiad cyhoeddus arall gan Weinidog.

Mae Miriam Griffiths wedi gweithio ym maes addysg uwch, addysg bellach ac addysg i oedolion yng Nghymru ers 30 o flynyddoedd ac mae ganddi ddiddordeb personol a brwd mewn casgliadau ac arddangosfeydd. Ar ôl gweithio fel darlithydd ac athrawes ym mhynciau'r Celfyddydau a'r Dyniaethau, gan gynnwys cynllunio cyrsiau ar gyfer oedolion sy'n dychwelyd i fyd addysg uwch, enillodd brofiad rheoli ar lefel uwch mewn gwahanol swyddi gan gynnwys Cyfarwyddwr y Brifysgol Agored yng Nghymru a Phennaeth yr Adran Addysg Barhaus ym Mhrifysgol Cymru, Bangor. Mae wedi gwasanaethu fel Cadeirydd anrhydeddus ac fel Aelod o fwrdd neu bwyllgor sawl sefydliad elusennol ac addysgol yng Nghymru, y DU ac Ewrop, ac mae ganddi hefyd brofiad ymarferol o weithio yn y sector gwirfoddol. Ers ymddeol mae wedi gweithio fel ymchwilydd ac ymgynghorydd annibynnol ym myd addysg ac mae wedi gwneud gwaith gwirfoddol yng Nghymru a thramor, gan gynnwys gwaith â sefydliad i fenywod yn Affrica. Nid yw'n meddu ar unrhyw benodiad cyhoeddus arall gan Weinidog.

Mae Gareth Wyn Jones wedi gweithio fel Darlithydd, Uwch Ddarlithydd, Darllenydd ac Athro yn Ysgol y Gwyddorau Biolegol ac yn Ysgol y Gwyddorau Amaeth a Choedwigaeth ym Mhrifysgol Cymru, Bangor a bu'n Gyfarwyddwr ar CAZS-NR (Y Ganolfan Astudiaethau Tir Cras - Adnoddau Naturiol) am sawl blwyddyn. Mae ei swyddi blaenorol yn cynnwys Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Gwyddoniaeth a Datblygu Polisi yng Nghyngor Cefn Gwlad Cymru a Rheolwr, Cadeirydd a chynghorydd Rhyngwladol i Adran Datblygiad Rhyngwladol y DU. Mae hefyd wedi ymgymryd â llawer o wahanol rolau â'r British Council a'r Comisiwn Ewropeaidd, fel aelod o Bwyllgor Cymru yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac fel Cadeirydd Ymddiriedolaeth Treftadaeth Ddiwydiannol Amlwch a Fforwm Gwledig Cymru. Ei feysydd arbenigol yw'r gwyddorau naturiol a'r gwyddorau daear, ac mae'n awdur neu'n gydawdur o tua 180 o bapurau gwyddonol yn y Gymraeg a'r Saesneg. Fe'i hetholwyd yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn 2011. Nid yw'n meddu ar unrhyw benodiad cyhoeddus arall gan Weinidog.

Mae Christina Macaulay yn byw yng Nghaerdydd ers 1993 ac mae'n Gynhyrchydd Gweithredol rhaglenni ffeithiol â BBC Cymru, lle y mae'n gyfrifol am wahanol gyfresi lleol a rhwydwaith. Bu'n ymddiriedolwr i Amgueddfeydd Cenedlaethol Yr Alban am wyth mlynedd. Ei meysydd arbenigol yw hanes ac archaeoleg, ac mae'n ymwelydd brwd ag amgueddfeydd, yn aml gyda'i dau o blant sydd yn yr ysgol. Nid yw'n meddu ar unrhyw benodiad cyhoeddus arall gan Weinidog.

Mae Jonathan Osmond yn Ddirprwy Is-Ganghellor, Addysg a Myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd. Cyn hyn, roedd yn Bennaeth ar Ysgol Hanes ac Archaeoleg y Brifysgol. Mae ei waith ymchwil ei hun mewn blynyddoedd diweddar wedi canolbwyntio ar gelfyddydau gweledol yr Almaen fodern. Mae ganddo wybodaeth sylweddol am amgueddfeydd ac orielau yn Ewrop a Gogledd America.

 

Llun: Huw Lewis

Rhannu |