Mwy o Newyddion
Adfywio Blaenau Ffestiniog
Bydd bwrlwm yn ardal Blaenau Ffestiniog dros yr wythnosau nesaf wrth i’r gwaith gychwyn ar y cynllun cyffrous a hir-ddisgwyledig o adfywio canol y dref. Yn dilyn proses dendro gystadleuol dros yr haf mae cwmni Balfour Beatty wedi cael ei benodi i ymgymryd â’r gwaith.
Mae’r cynllun adfywio – sydd wedi ei ariannu gan gronfeydd strwythurol Ewropeaidd, Llywodraeth Cymru a Chyngor Gwynedd – yn anelu at greu lleoliad siopa bywiog ynghyd â datblygu’r dref i fod yn gyrchfan o bwys i ymwelwyr. Mae barn trigolion yr ardal wedi bod yn hanfodol, trwy gynnig arweiniad clir ar gyfer y gwaith canol tref. Nodwyd gan y trigolion y dylai cynlluniau fod yn seiliedig ar draddodiad a threftadaeth unigryw’r ardal, ac fel y gwelir, adlewyrchir hyn yn y cylluniau.
Meddai Steve Jones, rheolwr y prosiect ar ran Balfour Beatty: “Rydym yn edrych ymlaen at gychwyn ar y gwaith ym Mlaenau Ffestiniog. Mae’r cynllun wedi bod yn cael ei ddatblygu ers blynyddoedd bellach ac mae’n bleser cael bod yn rhan o’r tîm a fydd yn gwireddu’r weledigaeth yma ar gyfer y dref.”
Dywedodd Bob Cole sy’n gadeirydd grŵp strategol Blaenau Ymlaen: “Mae datblygu’r cynllun yma wedi bod yn broses hir, rhwng yr ymgynghori eang, sicrhau’r arian a pharatoi cynlluniau manwl. Mi fydd hi’n braf iawn gweld y gwaith yn cychwyn dros yr wythnosau nesaf.”
Ychwanegodd y Cynghorydd John Wynn Jones, Arweinydd Portffolio Economi a Chymuned Cyngor Gwynedd: “Rwyf yn cymeradwyo’r gwaith a’r ymroddiad y mae’r gymuned yn Ffestiniog wedi ei roi i’r cynlluniau adfywio yma dros y blynyddoedd ac mae’n braf iawn gweld fod gwaith ar gychwyn.”
Bydd cwmni Balfour Beatty yn cynnal digwyddiad ar 23 Tachwedd i drafod sut y gall gwmnïau lleol fanteisio ar y gwaith. Dywedodd y Cynghorydd Paul Thomas, sy’n cynrychioli ward Bowydd a Rhiw ar Gyngor Gwynedd: “Dyma gyfle gwych i gwmnïau wneud cysylltiadau gyda chwmni Balfour Beatty, byddwn yn annog busnesau lleol i gysylltu gyda Chyngor Gwynedd os ydynt yn awyddus i fynychu’r digwyddiad.”
Ychwanegodd Llyr Jones, Uwch Reolwr Adran Economi a Chymuned Cyngor Gwynedd: “Rydym wedi gosod cymalau arbennig yn y cytundebau er mwyn sicrhau bod cyfleoedd i bobl leol ennill sgiliau yn sgìl y gwaith, mae’n debyg y bydd chwech o bobl yn derbyn hyfforddiant,“
Bydd y cynlluniau yn cael eu harddangos yn Noson Goleuo ’Stiniog sy’n cael ei gynnal ar 1 Rhagfyr. I weld y cynlluniau ar y wefan ewch i: www.gwynedd.gov.uk/blaenauymlaen
Am fwy o wybodaeth am y digwyddiad ‘cwrdd gyda’r prynwr’ neu unrhyw elfen arall o’r cynllun cysylltwch â blaenauymlaen@gwynedd.gov.uk neu codwch y ffôn ar 01766 512499.
Llun: Darlun o sut bydd canol y dref yn edrych wedi i’r gwaith gael ei gyflawni