Mwy o Newyddion

RSS Icon
14 Tachwedd 2011

Taclo tlodi tanwydd

Gyda rhagolygon am aeaf caled arall mae cymdeithasau tai yng Ngwynedd wedi dod at ei gilydd ynghyd â National Energy Action (NEA) i gefnogi tenantiaid sy’n cael trafferthion gyda biliau tanwydd uchel.

 

Mae adroddiad diweddar yn dangos bod Gogledd Cymru ymysg yr ardaloedd sy’n cael eu heffeithio waethaf, gydag un mewn pob tri chartref yn dioddef oherwydd tlodi tanwydd. Mae ymchwil yn dangos hefyd fod biliau ynni wedi codi 40% ers 2008 gan roi pwysau ariannol ychwanegol ar gartrefi incwm isel.

 

I geisio datrys y broblem mae Cartrefi Cymunedol Gwynedd (CCG) a Tai Eryri wedi derbyn nawdd gan Calor trwy NEA Cymru i gynnal sesiynau i gynghori ar ynni yn y cartref. Wedi’r gweithdy bydd NEA yn adnabod unigolion, yn staff ac yn denantiaid i fod yn arbenigwyr ac i gynnig cyngor i denantiaid eraill ar ddefnydd o danwydd ac effeithlonrwydd ynni.

Dywedodd Rhys Jones, Cyfarwyddwr Cwsmeriaid a Chymunedau gyda CCG: “Mae’r ystadegau hyn yn frawychus, ac fel y darparwr mwyaf o dai fforddiadwy yn yr ardal y teimlad oedd ei bod yn bwysig i ni helpu tenantiaid ddarganfod ffyrdd o leihau costau tanwydd. Bydd y gweithdai, sy’n cael eu darapru gan NEA, yn rhoi cyngor ar arbed arian, ble i gael y cynigion gorau ar danwydd a sut i wneud y cartref yn fwy ynni effeithlon.”

Meddai Walis George, Prif Weithredwr Tai Eryri: “Mae hwn yn fater pwysig iawn i ni, ac rydym yn falch iawn o allu gweithio gyda CCG ac NEA i godi ymwybyddiaeth ymysg tenantiaid a’u cynorthwyo i ddod allan o dlodi tanwydd. Gyda’r tywydd eisoes yn oeri, hoffwn annog tenantiaid i fynychu ac i gadarnhau eu llefydd yn y sesiynau.”

Jane Edgington, yw Swyddog Hyfforddiant a Datblygu yng Ngogledd Cymru, dywedodd: “Mae pobl yn wynebu amser caled iawn gyda phrisiau tanwydd yn cynyddu. Nid mater o gadw’n gynnes yn unig yw hyn wrth gwrs, mae tlodi tanwydd yn cael effaith ddifrifol ar iechyd a lles pobl hefyd. Fel rhan o’n hymgyrch Cartrefi Clud mae’r sesiynau cymorth hyn yn tynnu sylw at broblemau tlodi tanwydd yn ogystal â dangos i bobl sut y gallent arbed arian a ble i gael cymorth pellach.”

Cynhelir y sesiynau nesaf yn:

Lleoliad: Cymdeithas Tai Eryri, Tŷ Silyn, Penygroes

Dyddiad: 22/11/2011

Amser: 09:15-11:15am

 

Lleoliad: Y Ganolfan, Porthmadog

Dyddiad: 22/11/2011

Amser: 13:15-15:15pm

 

Dim ond lle i 20 sydd ym mhob gweithdy felly mae tenantiaid yn cael eu hannog i gysylltu ag Elin Morris yn CCG ar 0300 123 8084 i gadarnhau eu lle.

Rhannu |