Mwy o Newyddion
Frankie Cocozza a'r myth newydd
Beth sy’n digwydd pan fyddwch chi’n cymryd bachgen ifanc bregus, ei arwain i uchelfannau enwogrwydd cenedlaethol, ei ganmol am ei dalent fel canwr, ei annog i feddwl amdano ei hun fel Keith Moon modern ac yna ei adael ar drugaredd y wasg dabloid?
Yr wythnos hon, gwelsom hyn i gyd pan achosodd campau’r bachgen deunaw oed, Frankie Cocozza, iddo gael ei ollwng o X Factor, sioe lle’r oedd wedi bod yn gystadleuydd.
Aeth ei ymddygiad yn gwbl annerbyniol yn y pen draw pan ddatgelwyd ei fod wedi cymryd cocên. Ond am wythnosau bu nifer o storïau llawer mwy blinderus am ei ormodiaith honedig. Yn ôl ei arfer, gollyngodd Simon Cowell ef yn sydyn iawn pan ddatgelwyd y pethau hyn.
Dywedodd papur newydd y Sun: ''Mae Frankie wedi colli cyfle gwych. Mae’n hynod o drist ond nid oes ganddo neb i’w feio ond ef ei hun.”
I gymryd Simon Cowell o ddifrif (ac mae’n debyg nad ydy Simon yn pryderu pa un a ydych yn gwneud hynny ai peidio), rhaid i ni anwybyddu’r rhan fwyaf os nad holl gyd-destun yr hyn sydd wedi digwydd. Mae’n awyddus i elwa ar lwyddiannau’r rhai dan ei adain ac yn llawer rhy awyddus i ollwng y rhai a ystyrir fel methiannau.
Yn gyntaf, mae Frankie Cocozza wedi bod yn cymryd cyffur pwerus, caethiwus ac yn aml hynod beryglus gyda holl lygaid y cyhoedd arno am wythnosau lawer. Mae’r ffaith mai’r cyffur dan sylw yw alcohol yn ei ddarostwng o safbwynt gwerth newyddion i stori am afiaith a hwyl diniwed pobl ifanc.
Yn ail, mae’r peiriant cyhoeddusrwydd sy’n amgylchynu Frankie a phobl ifanc eraill tebyg, yn hyrwyddo llawer o’i ymddygiad er mwyn creu person arbennig, er mwyn gwarantu modfeddi lawer yng ngholofnau’r wasg dabloid, er mwyn hybu maint cynulleidfa’r rhaglen, er mwyn tawelu’r hysbysebwyr. Felly, rhaid i Frankie wneud sioe ohono ei hun.
Mae’r X Factor wedi dangos cyfradd o drachwant a hunanoldeb ariangarwch noeth, heb sôn am ragrith anferth, nad yw rhai rhaglenni eraill erioed wedi’u dangos. Cyn gynted ag yr oedd y bachgen ifanc gwirion hwn wedi dangos gwendid, cafodd ei anwybyddu. Nid oedd unrhyw gwestiwn y byddai Simon Cowell, Gary Barlow nac unrhyw un arall ar y sioe yn teimlo hyd yn oed ychydig o gyfrifoldeb dros ei les o gwbl. I wneud hynny, mae’n debyg y gellid bod wedi gosod rhyw fath o fai, yn ddamweiniol, ar y sioe a’r diwylliant o’i chwmpas, sy’n farwol y dyddiau hyn; nid oedd ond yn rhaid edrych ar enghraifft y News of The World i weld yr hyn sy’n digwydd pan fydd elfen o ddiwylliant enwogrwydd yn cael ei dal yn gyfrifol am rywbeth.
Ond dylai’r X Factor fod yn atebol am fethu â gofalu am Frankie, ac mae paralel diddorol i’w weld gan deledu realaeth yr wythnos hon.
Dydd Sadwrn, cyrhaeddodd Frankie ar y sioe ar ôl cael awr o gwsg. Roedd wedi bod ar ‘bender’ hir yn yfed ac yn cymryd cyffuriau. Dylai unrhyw arbenigwr dibyniaeth (neu ddyn lleyg o ran hynny) fod wedi gweld yn hawdd y diffyg pŵer dros sylweddau oedd yn amlwg yn y senario hwn; ble’r oedd yr oedolion cyfrifol o gwmpas Frankie, lle’r oedd yr arweiniad?
Nos Lun, darlledwyd Junior Apprentice, lle’r oedd yr Arglwydd Sugar yn gyndyn iawn yn gorfod taflu allan un person gobeithiol arall oedd yn edrych ymlaen at ddechrau gyrfa mewn busnes.
Roedd y tŷ lle’r oedd y cystadleuwyr yn aros yn y rhaglen hon yn cael ei oruchwylio (roedd yn dŷ mawr crand glân mewn ardal ddrudfawr o Chelsea neu leoliad hardd arall gyda deg person ifanc ynddo. Nid oedd unrhyw siawns eu bod yn cael eu gadael i wneud yr hyn a fynnen nhw).
Yn y senario hwn, mae dyletswydd gofal y cwmni cynhyrchu dros blant annwyl pobl eraill yn cael ei gyflawni. Mae’r syniad eu bod yn fodau dynol ac yn haeddu rhywfaint o bryder a diogelwch ac nid yn nwyddau i hybu refeniw hysbysebu neu nifer y gwylwyr wedi’i ddeall yn hollol.
Pam mae’r ddwy ymagwedd gwahanol hwn tuag at bobl ifanc sy’n creu adloniant i ni yn y ddwy sioe fwyaf ar y teledu? Yn achos Junior Apprentice, byddai yfed, ymddygiad rhywiol amhriodol neu gymryd cyffuriau’n dinistrio’r sioe, ond yn achos X Factor, mae’n amlwg eu bod yn gwneud y sioe’n un llwyddiannus.
Yma, cawn ein gadael gyda dau lanastr o’n blaen, y cyntaf, y llanastr ym mywyd y bachgen ifanc - mae wedi gadael X Factor, mewn angen dybryd am driniaeth, wedi’i gywilyddio’n gyhoeddus. Er nad yw’n gwbl ddifai, mae’n siŵr y bydd gwir faint cyfrifoldeb y sioe yn cael ei anwybyddu’n gyfleus iawn.
Yr ail lanastr yw cyflwr y drafodaeth gyhoeddus am gyffuriau ac alcohol. Unwaith eto mae llinell hud, anweledig wedi’i thynnu rhwng y ddau gan ystyried y ddiod fel dosbarth arbennig o sylwedd sydd wedi’i eithrio, nid cyffur per se. Effaith hyn yw helpu i greu myth i genhedlaeth newydd gyfan ac mae Frankie wedi gwneud hyn yn ddiarwybod, gan ledaenu neges nad yw wedi’i mynegi ond sydd er hynny’n ddealledig: “Dw i ddim yn gneud coke blant, ond mae yfed yn iawn.”