Mwy o Newyddion

RSS Icon
14 Tachwedd 2011

Cyngor rhad ac am ddim i fentrwyr ifanc

Lansiwyd Cynllun Datblygu Gwledig newydd yn Sir Gâr, sef Mentro, a fydd yn helpu’r rheini rhwng 16 a 30 mlwydd oed sy’n byw yng nghefn gwlad Sir Gâr i ddechrau eu busnes eu hunain.

Bydd Swyddogion Mentro sef Tomas Marks a Glyn Jones yn chwilio am yr Alan Sugar nesaf yng nghefn gwlad Sir Gâr ac yn dod o hyd i fentor penodol ar gyfer pob mentrwr.

Bydd Mentro yn rhoi cyngor ac arweiniad yn rhad ac am ddim ynghylch dechrau eich busnes eich hun ac yn codi ymwybyddiaeth am y benthyciadau cychwyn a’r cymorth ariannol sydd ar gael. Bydd Mentro hefyd yn medru helpu llunio cynlluniau a chyllidebau busnes.

Cyflwynir y prosiect gan Fenter Bro Dinefwr drwy gyfrwng cynllun Entrepreneuriaeth Wledig gan Gynllun Datblygu Gwledig Sir Gâr. Ariannir y prosiect drwy gyfrwng Cynllun Datblygu Gwledig (RDP) Cymru 2007 - 2013 gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

“Yn sgil yr hinsawdd economaidd bresennol a phrinder swyddi mae hwn yn gyfle da i ddod o hyd i gynlluniau newydd a datblygu syniadau busnes” meddai Owain Gruffydd, Prif Weithredwr Menter Bro Dinefwr. Mae ef o’r farn bod y cynllun yn bwysig i’r ardal gan ei fod yn cynnig yr anogaeth a’r cymorth sydd eu hangen ar bobl busnes ifanc posib.

Os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â Tomas Marks (Swyddog Mentro) ar 01558 825336 neu e-bostiwch tomasmarks@menterbrodinefwr.org.uk

Mae gan Gynllun Datblygu Gwledig Sir Gâr nifer o grantiau a chynlluniau cymorth eraill ar gael i unigolion, ffermwyr, grwpiau cymunedol a busnesau. Am ragor o wybodaeth, ffoniwch Nerys Jones (Swyddog Cynllun Datblygu Gwledig) ar 01267 242364.


Llun: O’r chwith i’r dde: Swyddogion Mentro Glyn Jones a Tomas Marks.

Rhannu |