Mwy o Newyddion

RSS Icon
14 Tachwedd 2011

Seicig enwog yn gweld dyfodol disglair i'r Elyrch

Mae'r seicig enwog, Derek Acorah, yn rhagweld dyfodol mawr i'r Elyrch.

Mae'r bersonoliaeth deledu yn dweud bod arddull pêl-droed Abertawe mor hardd â thraethau G?yr ac mae'n credu y bydd hynny'n sicrhau y byddant yn cadw'u safle yn yr Uwch Gynghrair.

Roedd Derek, sy'n enwog am ei ymddangosiadau yn Most Haunted gyda chyn-gyflwynydd Blue Peter, Yvonne Fielding, yn Abertawe am berfformiad yn Theatr y Grand.

Bu Derek, sy'n 61 oed, yn chwarae pêl-droed dros Lerpwl yn ei ieuenctid o dan y rheolwr chwedlonol, Bill Shankly.

Meddai Derek, "Mae'r Elyrch wedi gwneud yn dda iawn i gyrraedd y lefel nesaf. Maen nhw'n fy atgoffa ychydig o Blackpool yn y ffordd y maen nhw'n chwarae pêl-droed pert, ond hwyrach ddim eto wedi ymsefydlu'n gadarn yn yr Uwch Gynghrair eto. Ond ni fydd dyfodol y tymor yn gorwedd gydag un chwaraewr, ac er mwyn aros yn eu safle, bydd rhaid i'r Elyrch chwarae ar eu gorau bob tro."

Mae hefyd yn credu mai Abertawe yw'r ddinas orau yng Nghymru, nid yn unig yn nhermau pêl-droed ond hefyd o ran yr hyn y mae'n ei gynnig fel cyrchfan.

Meddai Derek: "Mae Abertawe'n ffantastig. Rwyf wedi ymweld â'r ardal droeon ac rwy'n cael croeso twymgalon bob tro. Rwy'n teimlo'n reit gartrefol yma. Rwy wedi gweld tipyn o'r ddinas ac a bod yn onest, mae'n well gen i Abertawe i brifddinas Cymru - mae llawer mwy i'w wneud yma."

Mae Cyngor Abertawe'n dweud ei fod yn cynnal sawl ymgyrch farchnata flaengar ar hyn o bryd i annog cynifer â phosib o gefnogwyr yr Uwch Gynghrair sy'n ymweld i dreulio amser yn y ddinas yn lle teithio'n ôl a mlaen yn unig i'r gemau yn Stadiwm Liberty.

Meddai'r Cyng. Graham Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Ddiwylliant, Hamdden a Thwristiaeth, "Mae'r Uwch Gynghrair yn gyfle gwych i Abertawe ac rydym eisoes wedi gweld y manteision sy'n dod yn sgîl y statws hwnnw.

"Ond yr hyn sy'n allweddol nawr yw parhau i weithio'n galed i gynyddu ymwybyddiaeth o'r hyn sydd gennym i'w gynnig o ran twristiaeth yng nghanolfannau pêl-droed Prydain a thramor er mwyn denu cynifer â phosib o ymwelwyr newydd yma.

"Mae barn Derek am Abertawe'n cael ei hadlewyrchu gan lawer o ymwelwyr a dyma un o'r rhesymau pam rydym wedi ailwampio gwefan cyrchfan swyddogol Abertawe i gynnwys arweiniad i'r ddinas ar-lein i gefnogwyr o bant.

"Mae'n adeg gyffrous i Abertawe, ac rydym yn benderfynol na wnawn ni golli'r cyfle euraid hwn."

Ewch i www.dewchifaeabertawe.com i gael rhagor o wybodaeth neu ewch i adran y cefnogwyr a sefydlwyd yn benodol ar gyfer cefnogwyr o bant sy'n dod i Stadiwm Liberty.

Rhannu |