Mwy o Newyddion

RSS Icon
14 Tachwedd 2011

Ateb ar gyfer problem bysiau ym Mancyfelin

Yn y flwyddyn newydd, bydd bysiau yn weithredol ym mhentref Bancyfelin, sydd ar hyn o bryd wedi colli'i gyswllt cludiant teithwyr.

Bydd y gwasanaethau newydd yn rhai arbrofol a bydd eu parhad yn ddibynnol ar y nifer sy'n eu defnyddio.

Mae swyddogion trafnidiaeth Cyngor Sir Caerfyrddin wedi gallu cael hyd i ateb ar ôl colli’r gwasanaeth bysiau a oedd yn mynd o Gaerfyrddin i Fancyfelin ac maent yn gobeithio y bydd y cyhoedd yn cefnogi'r gwasanaeth y gwnaed cais amdano.

Yn y blynyddoedd diwethaf, mae materion yn ymwneud â bysiau yn methu â throi i'r dde yn ddiogel o Fancyfelin i'r A40 wedi arwain at weithredwyr bysiau yn tynnu eu gwasanaeth yn ôl o'r pentref.

Mae hyn wedi arwain at lawer o gwynion oherwydd mae wedi golygu er ei bod hi, ar hyn o bryd, yn bosibl dal bysiau o Fancyfelin i Gaerfyrddin, dim ond un bws dyddiol sydd ar gael yn ôl i'r pentref o Gaerfyrddin. Yn ogystal, does dim bysiau o Fancyfelin i Sanclêr lle bydd nifer o breswylwyr y pentref yn mynd ar gyfer eu hapwyntiadau meddygol.

Gan nad oedd unrhyw gwmnïau bysiau yn fodlon dargyfeirio eu bysiau ac yn sgil y nifer bach o deithwyr a ddefnyddiai'r bysiau a oedd yn gwneud y gwasanaeth yn aneconomaidd, mae'r Cyngor wedi gweithio'n galed er mwyn cael hyd i ateb a fydd yn cael ei gyflwyno ar 9fed Ionawr 2012.

Meddai'r Cynghorydd Philip Hughes, yr Aelod o Fwrdd Gweithredol y Sir dros drafnidiaeth: “Gan ei bod hi'n amser tendro ar gyfer gwasanaeth 224, sy'n mynd o Gaerfyrddin i Hendy-gwyn drwy Feidrim a Sanclêr, mae'r Awdurdod wedi nodi ar y tendr newydd y dylai pob siwrnai sy'n dychwelyd o Gaerfyrddin ddargyfeirio drwy Fancyfelin ar y ffordd i Feidrim.

“Mae hwn yn cynnig ateb i ddwy broblem o ran y diffyg bysiau o Gaerfyrddin i Fancyfelin ac o Fancyfelin i Sanclêr.

"Wrth gwrs, mae hyn yn golygu y bydd y siwrnai ar y ffordd yn ôl yn cymryd ychydig yn fwy o amser i'r rhan fwyaf o bobl ond y gobaith yw y bydd teithwyr yn deall ac yn derbyn hyn.

“Mae'n bwysig bod y gymuned yn deall bod y dargyfeiriad yn arbrofol ac yn golygu bod yr Awdurdod yn rhoi cymhorthdal o ran y costau a fydd ond yn parhau ac yn cael ei gyfiawnhau yn y dyfodol os caiff y gwasanaeth ei gefnogi gan deithwyr ym Mancyfelin.”

Rhannu |