Mwy o Newyddion

RSS Icon
14 Tachwedd 2011

Hwb adfywio gwerth £1.9 miliwn i'r Gogledd-Orllewin

Mae Huw Lewis, y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, wedi cyhoeddi y bydd cyfanswm o 14 o brosiectau adfywio yn ardal Ynys Môn a gogledd Gwynedd yn rhannu dros £1.9 miliwn.

Dyma'r cyllid diweddaraf i gael ei ddyrannu drwy Raglen Ardal Adfywio Môn a Menai Llywodraeth Cymru. Bydd y cyllid yn helpu i sicrhau hwb ariannol pellach gwerth £5.8 miliwn gan yr UE a ffynonellau eraill a fydd yn cefnogi adfywiad amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd yr ardal.

Ymysg prif flaenoriaethau'r rhaglen tair blynedd y mae ffocws carbon isel, gwella seilwaith, datblygu asedau treftadaeth ac asedau naturiol allweddol, datblygu cymunedau cynaliadwy a hybu arloesed a sgiliau.

Bydd Cyngor Sir Ynys Môn yn derbyn £350,000 i gefnogi datblygiad safleoedd yn Llangefni a Mona, gan helpu i ddatrys y prinder presennol o safleoedd a lleoliadau busnes modern.

Bydd Comisiwn Coedwigaeth Cymru yn derbyn £170,000 i wella atyniadau i ymwelwyr yng Nghoedwig Niwbwrch. Bydd y cyfleusterau gwell a fydd yn cynnwys llwybrau beicio, marchogaeth a gweithgareddau ar y traeth yn rhoi hwb i'r economi leol drwy ddenu rhagor o ymwelwyr i'r ardal.

Bydd Cwmni Cychod Ynys Môn yn derbyn grant o £300,000 i ddarparu naw o unedau modern ar gyfer busnesau morol ym Mhenrhyn Safnas, Biwmares. Bydd y grant hwn yn cyfrannu at fuddsoddiad gwerth cyfanswm o £864,000.

Bydd Cyngor Gwynedd yn derbyn £90,000 ar gyfer prosiect Gwynedd Digidol er mwyn ei gwneud yn haws i bobl fanteisio ar gyswllt band eang a hybu'r economi ddigidol a chynhwysiant digidol. Bydd rhaglenni presennol Llywodraeth Cymru yn sail i'r prosiect a bydd mentrau lleol i hybu cynhwysiant digidol yn cael eu datblygu .

Mae Gwasanaeth yr Amgylchedd Cyngor Gwynedd hefyd wedi derbyn £100,000 ar gyfer datblygu llwybr newydd 1km a fydd yn estyn llwybr presennol Lôn Las Ogwen o Dregarth i Fethesda. Gallai'r prosiect cyffrous hwn gysylltu llwybrau rhanbarthol a llwybrau cenedlaethol a datblygu Bethesda yn lleoliad sy'n denu ymwelwyr.

Dywedodd Huw Lewis,

“Mae'r prosiectau hyn yn mynd i'r afael â'n holl wahanol nodau adfywio. Mae nifer o brosiectau gwyrdd yn ceisio diogelu ein hamgylchedd naturiol a gwella lles ein pobl leol, a hefyd creu rhagor o bosibiliadau ar gyfer yr economi leol.

“Mae'r cyllid yn tystio i ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi prosiectau adfywio yn lleol ac i barhau i fuddsoddi yn ardal Môn a Menai”.

Cafodd ardal Môn a Menai ei henwi fel yr ail Ardal Adfywio Strategol yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru yn 2008. Ers hynny mae dros 100 o brosiectau wedi'u cymeradwyo ac maent wedi derbyn gwerth £21 miliwn o gyllid uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru. Mae'r cyllid hwn wedi denu buddsoddiad sylweddol o'r UE ynghyd â buddsoddiad ariannol arall i'r ardal.

Rhannu |