Mwy o Newyddion

RSS Icon
10 Tachwedd 2011

Pecyn Cymorth i Gymuned y Lluoedd Arfog

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio pecyn cymorth i Gymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru.

Cyhoeddwyd yr amrywiaeth o fesurau gan y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros y Lluoedd Arfog yng Nghymru, Carl Sargeant, yng Nghlwb y Lleng Brydeinig Frenhinol yn Llanrhymni lle cyfarfu â chyn-filwyr lleol.

Dywedodd Carl Sargeant: “Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynyddu’r cymorth a ddarparwn i gymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru. Mae’r ddogfen hon yn nodi sut rydym yn cefnogi’r Lluoedd Arfog yng Nghymru, eu teuluoedd a chyn-filwyr mewn meysydd datganoledig allweddol fel gofal iechyd, tai ac addysg.

“Yng Nghymru amcangyfrifir fod o leiaf chwarter miliwn o aelodau yng Nghymuned y Lluoedd Arfog, sy’n cynnwys personél ar wasanaeth, milwyr wrth gefn a chadetiaid yn ogystal â’u teuluoedd a chyn-bersonél y lluoedd arfog. Fel Llywodraeth, rydym am wneud yn siŵr nad ydynt o dan unrhyw anfantais.

“Gobeithio bod y cymorth sy’n cael ei ddisgrifio yn y ddogfen hon, a fydd yn cael ei hadolygu yn ôl y gofyn pan gytunir ar fentrau newydd, yn helpu i gyflawni hyn i raddau helaeth.”

Dywedodd Athol Hendry, Cyfarwyddwr Marchnata a Chyfathrebu Corfforaethol gyda Help Lluoedd SSAFA (Cymdeithas y Milwyr, Morwyr, Awyrenwyr a’u Teuluoedd): “Mae Help Lluoedd SSAFA yn croesawu ‘Pecyn Cymorth’ Llywodraeth Cymru i Gymuned y Lluoedd Arfog.

“Yn Help Lluoedd SSAFA rydym yn credu bod y rhai sy’n gwasanaethu a’r rhai sydd wedi gwasanaethu yn ein Lluoedd Arfog yn haeddu cymorth am oes, ynghyd â’u teuluoedd. Wrth wraidd hyn, mae’n hanfodol fod pob milwr, morwr ac awyrennwr, ynghyd â’u teuluoedd a’n cyn-filwyr yn cael eu trin â pharch ac ar yr un telerau â dinasyddion eraill. Mae’r mesurau hyn yn gam positif tuag at sicrhau bod hyn yn digwydd.”

Rhannu |