Mwy o Newyddion

RSS Icon
10 Tachwedd 2011

Gweinidog yn ailddatgan ei ymrwymiad i ddyfodol cryf i S4C

Mae’r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, Huw Lewis, wedi ailddatgan ei ymrwymiad i ddyfodol cryf i S4C.

Wrth siarad yn ystod dadl yng nghyfarfod llawn y Cynulliad Cenedlaethol ddydd Mawrth, dywedodd y Gweinidog: “Nid yw’n iawn fod dyfodol darlledu yng Nghymru yn cael ei arwain gan doriadau sy’n cael eu gorfodi gan Lywodraeth y DU. O’r herwydd bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i sefyll yn gadarn o blaid cadw gwasanaethau llawn yn y Gymraeg.

"Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi parhau i ddatgan ein pryderon i Lywodraeth y DU ac i Ymddiriedolaeth y BBC ynghylch effaith unrhyw doriadau mawr mewn cyllid ar S4C a’i allu i wasanaethu cynulleidfa Gymreig. Rydym hefyd wedi pwysleisio’r angen i S4C barhau’n sianel annibynnol gyda’i gyllideb ei hun.

Croesawodd y Gweinidog y cytundeb diweddar rhwng Ymddiriedolaeth y BBC ac Awdurdod S4C drwy ddweud: “Mae’r cytundeb yn ymwneud ag ariannu, llywodraethu ac atebolrwydd S4C am y chwe blynedd nesaf. Yn allweddol, mae’n gwneud hynny mewn ffordd sy’n amddiffyn annibyniaeth golygyddol a rheolaethol S4C. Mae cael sicrwydd ynghylch cyllid tan 2017 yn gam mawr ymlaen a dylai sicrhau sefydlogrwydd i S4C a’r sector cynhyrchu annibynnol.

“Fe hoffwn i dalu teyrnged i Awdurdod S4C ac Ymddiriedolaeth y BBC sydd wedi darparu'r cytundeb hwn ar ôl trafodaethau maith. Yn arbennig, rwy’n falch o gydnabod cyfraniad yr Aelod dros Gymru ar Ymddiriedolaeth y BBC Elan Closs Stephens a Chadeirydd S4C, Huw Jones. Mae polisi darlledu yn fater nad yw wedi’i ddatganoli ac mae’n werth edrych yn ôl ar effaith gyffredinol penderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth y DU yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn ymwneud â’r sianel.

Wrth siarad am ddyfodol y sianel, dywedodd y Gweinidog: “Dros y blynyddoedd nesaf, bydd gan S4C rôl hyd yn oed yn fwy pwysig i’w chwarae. Rwy’n ymwybodol iawn o rôl economaidd S4C. Mae polisi comisiynu S4C wedi cyfrannu’n fawr at dwf y sector cynhyrchu annibynnol yng Nghymru. Un o gyfraniadau mwyaf S4C yw hwyluso twf y sector cynhyrchu annibynnol sydd â phocedi o arbenigedd ar draws Cymru. Mae’r sector wedi gwneud cyfraniad pwysig i’r economi ac wedi ehangu’r sylfaen sgiliau ar gyfer y diwydiannau creadigol. Mae hefyd yn werth cofio bod S4C wedi cynorthwyo Cymru i gyflawni ei photensial creadigol.

“Mae S4C bellach mewn sefyllfa i ddechrau ymateb i’r heriau newydd. Mae safbwynt Llywodraeth Cymru yn glir – dylai adolygiad eang o S4C gael ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar y cyd. Mae’r ymrwymiad i bwyso am adolygiad wedi ei amlinellu yn ein Rhaglen Lywodraethu. Fe fyddwn yn parhau i drafod amserlen ein hadolygiad â Llywodraeth y DU.

“Mae S4C yn rhy bwysig i Gymru i ni beidio â chwarae rhan lawn yn y trafodaethau am ei rôl yn y dyfodol. Mae darlledu’n gyffredinol yr un mor bwysig. Rwy’n edrych ymlaen at glywed barn aelodau eraill ar y pwnc pwysig hwn heddiw. Rwy’n edrych ymlaen hefyd at barhau â’r drafodaeth hon dros y misoedd nesaf.”

Llun: Huw Lewis

Rhannu |