Mwy o Newyddion
Plaza Rhyfeddol o Hardd Morlan Elli
Mae Morlan Elli yn prysur ddatblygu'n goron gyforiog o atyniadau ar gwr y dref.
Mae darn hynod hardd arall o'r jig-so wedi'i osod yn ei le wrth i Ddoc y Gogledd yn Llanelli barhau i gael ei ddatblygu.
Mae sgwâr cyhoeddus wedi'i greu a fydd yn ganolbwynt ar gyfer cerddorion, theatr awyr agored ac amrywiaeth o berfformiadau cyhoeddus gan ddod â'r datblygiad hamdden a swyddfeydd sydd wedi'i greu eisoes ynghyd yn un cyfanwaith.
Mae'r cynllun llecyn cyhoeddus wedi'i greu drwy ddefnyddio amrywiaeth o liwiau gwahanol o farmor, ar ffurf amrywiol ddolenni a throeon mewn gardd sydd wedi'i phlannu mewn modd sensitif.
Meddai'r Cynghorydd Clive Scourfield, sef yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adfywio a Hamdden: “Mae'r rhan hon o Lanelli a oedd yn dlodaidd yr olwg wedi'i gweddnewid yn llwyr gan Grŵp y Gyd-fenter. Bydd yr ychwanegiad rhagorol hwn at y rhaglen sy’n datblygu i wella'r Forlan o gymorth i annog buddsoddi a datblygu yn Llanelli.”
Mae'r cynllun wedi'i ariannu gan Gyd-fenter Morlan Elli, sydd wedi buddsoddi'n sylweddol eisoes yn adfywio arfordir Llanelli. Mae'r Gyd-fenter yn bartneriaeth rhwng Cyngor Sir Caerfyrddin a Llywodraeth Cymru ac fe'i lluniwyd yn wreiddiol ym 1990 rhwng Cyngor Bwrdeistref Llanelli ac Awdurdod Datblygu Cymru.
Prif nod y bartneriaeth yw ysgogi adfywio ardaloedd arfordirol Llanelli a Phorth Tywyn. Gwnaed hyn drwy fuddsoddi mewn adfer tir a darpariaethau seilwaith sydd, yn eu tro, yn sylfaen i fuddsoddi a datblygu.
Dywedodd Edwina Hart, y Gweinidog Busnes, fod y buddsoddi gan y bartneriaeth yn cael effaith arwyddocaol ar yr ardal, gan greu cyfleoedd datblygu economaidd newydd i fusnesau a thwristiaeth.
"Mae'r buddsoddiad diweddaraf hwn mewn seilwaith yn gwella Doc y Gogledd ac yn creu canolfan atyniadol i fusnes a hamdden sy'n cyd-fynd â'r gwaith sy’n cael ei wneud yng nghanol tref Llanelli."
Mae'r Plaza yn cynnwys lle i bobl eistedd o amgylch y terfyn a man agored mawr yn y canol a fwriedir ar gyfer digwyddiadau cymunedol cyhoeddus.
Mae gwaith y Plaza yn cyd-fynd â gwelliannau blaenorol a wnaed i Ddoc Sir Gaerfyrddin, gan gynnwys creu swyddfeydd a bwyty o'r radd flaenaf a elwir y Sosban ac sydd wedi'i greu o amgylch tŵr dŵr y doc sy’n dŵr segur bellach.
Bydd y Plaza hefyd o gymorth i welliant nesaf y Doc sef Rhodfa y bwriedir ei chreu i'r gogledd o fasn y Doc gyda'r bwriad o gysylltu'r doc â Pharc Arfordirol y Mileniwm.