Mwy o Newyddion

RSS Icon
10 Tachwedd 2011

Cymeradwyo cynlluniau ar gyfer ysgol gynradd Gymraeg newydd

Mae cynlluniau Cyngor Abertawe i gynyddu nifer yr ysgolion Cymraeg yn y ddinas wedi symud cam arall ymlaen.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo cynlluniau i agor ysgol newydd ar hen safle Ysgol Gynradd y Cwm er mwyn cynyddu nifer y lleoedd a lleihau'r pwysau ar yr ysgolion Cymraeg presennol.

Yr ysgol newydd ym Monymaen fydd yr ail ysgol gynradd Gymraeg i gael ei chreu yn y ddinas mewn 12 mis.

Cafodd YGG Tan-y-lan yn Nhreforys ei hagor yn swyddogol yr wythnos hon ac mae sêl bendith Llywodraeth Cymru ar y cynnig diweddaraf yn hwb mawr i raglen AoS 2020 y Cyngor sy'n ceisio codi safonau, gwella safon amgylcheddau dysgu a defnyddio adnoddau'n fwy effeithlon.

Meddai Mike Day, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Addysg, "Dyma newyddion da i addysg yn Abertawe, yn enwedig addysg Gymraeg.

"Yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf, mae 700 o leoedd cyfrwng Cymraeg ychwanegol wedi'u creu yn Abertawe i ateb y galw cynyddol gan deuluoedd lleol am addysg Gymraeg i'w plant.

"Hen adeilad iau y Cwm ym Monymaen yw'r safle mwyaf priodol i greu'r ysgol newydd hon. Bydd yn lleihau'r pwysau ar yr ysgolion Cymraeg presennol nad ydynt yn gallu bodloni'r galw am leoedd ac ni fydd rhaid i blant adael eu cymunedau i fynd i'r ysgol gynradd Gymraeg agosaf."

Penderfynodd Leighton Adrews, Gweinidog Plant, Addysg a Dysgu Gydol Oes Llywodraeth Cymru, dderbyn cynnig Cyngor Abertawe ar ôl ystyried sylwadau a gwrthwynebiadau a gyflwynwyd fel rhan o ymgynghoriad statudol.

Yn ei ymateb i'r Cyngor, dywedodd ei fod yn fodlon y byddai'r cynnig yn gwneud cyfraniad cadarnhaol at bolisïau a strategaethau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r iaith Gymraeg.

Ychwanega: "Dylai darparu rhagor o leoedd cyfrwng Cymraeg fod yn fuddiol i ysgolion agos fel YGG Lôn-Las gan y dylai sicrhau na fyddant yn orlawn.

Mae'n mynd ymlaen i ddweud: "Mae'r gweinidog yn falch y bydd lleoliad yr ysgol newydd yn golygu y bydd darpariaeth ar gael yn lleol i blant yr ardal y mae eu rhieni am iddynt dderbyn eu haddysg drwy'r Gymraeg.

"Mae'r gweinidog yn deall bod digon o ddarpariaeth Saesneg yn yr ardal a disgwylir y bydd hyn yn parhau i fod yn wir."

Llun: Leighton Andrews

Rhannu |