Mwy o Newyddion

RSS Icon
10 Tachwedd 2011

Amgueddfa Cymru yn penodi dau Ymddiriedolwr newydd

Mae Llywydd Amgueddfa Cymru, Elisabeth Elias, wedi cyhoeddi penodiad dau Ymddiriedolwr newydd, yr Athro Robert Pickard a Dr Glenda Jones ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Mehefin 2012 a 31 Mai 2016.

 

Dywedodd Llywydd Amgueddfa Cymru, Mrs Elisabeth Elias: ‘’Rwy’n croesawu’r ddau benodiad ac yn edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda’r Athro Robert Pickard a Dr Glenda Jones pan fyddant yn dechrau ar eu gwaith fel Ymddiriedolwyr fis Mehefin nesaf. Bydd yr Athro Pickard a Dr Jones yn medru rhoi o’u profiadau newydd a helaeth.’’

 

Mae’r Athro Robert Pickard yn Athro Emeritws Niwrofioleg ym Mhrifysgol Caerdydd, Athro Ymweliadol yn y Coleg Amaethyddol Brenhinol ac yn Gymrawd y Gymdeithas Fioleg a’r Gymdeithas Feddyginiaeth Frenhinol.

Bu gynt yn Gadeirydd Fforwm Corff Anllywodraethol Sefydliad Brenhinol Iechyd y Cyhoedd ac Adran Iechyd y DU; Cadeirydd Cymdeithas Defnyddwyr y DU, Which?; Cyfarwyddwr Cyffredinol y Sefydliad Maeth Prydeinig a Chadeirydd Tasglu Rhagweld Llywodraeth y DU, Food's Contribution to Health in the Future. Gwasanaethodd hefyd ar y Grŵp Gorchwyl Gweinidogol Bwyd a Ffitrwydd i Blant a Phobl Ifanc, Panel Arbenigol Canllawiau Bwyd Ysgol gydag Ymddiriedolaeth Caroline Walker a Chyngor EuroFIR.

Mae’r Athro Pickard yn darparu cyngor gwyddonol i’r cyfryngau cyfathrebu ac amrywiaeth eang o sefydliadau; yn adrodd yn ôl i’r Gweinidog Ynni yn San Steffan a Gweinidogion yr Amgylchedd yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon ac mae hefyd yn Ymgynghorydd Annibynnol i Gomisiwn Cynulliad Cymru. Mae hefyd yn awdurdod rhyngwladol ar fioleg gwenyn mêl ac yn Llywydd Cymdeithas Gwenynwyr Caerdydd a Chymdeithas Ganolog y Gwenynwyr.

 

Wedi graddio mewn llenyddiaeth Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth parhaodd Dr Glenda Jones â’i hastudiaethau yn y coleg ger y lli drwy astudio Cymraeg Canol. Treuliodd gyfnod yng Ngholeg St Ioan, Caergrawnt hefyd ac ym 1991 cwblhaodd ei doethuriaeth.

A chanddi dros 20 mlynedd o brofiad ym myd teledu, treuliodd Glenda 15 mlynedd yn gweithio i'r BBC yng Nghaerdydd yn yr Adran Cynhyrchu Teledu, gan gychwyn fel ymchwilydd teledu. Treuliodd 10 mlynedd yn Uwch Gynhyrchydd i'r Gorfforaeth gyda chyfrifoldeb dros y ddrama ddyddiol Pobol y Cwm.

Yn 2000, dechreuodd weithio ar ei liwt ei hun ym maes cyfryngau a chyfathrebu. Gweithiodd ar nifer o brojectau cynhyrchu yn y sector annibynnol gan ddarparu cynnyrch ar gyfer S4C. Yn ystod yr wyth mlynedd diwethaf mae Dr Jones wedi cynyddu ei gwaith yn y maes hyfforddi a hyrwyddo ar gyfer cleientiaid yn y sector preifat a chyhoeddus. Mae hi’n arolygydd lleyg i Estyn, ac fe’i phenodwyd yn aelod o Awdurdod S4C ym mis Ebrill 2010.

Rhannu |