Mwy o Newyddion
Agor Canolfan Ynni gwerth £6 miliwn
Heddiw (dydd Iau 10 Tachwedd), agorodd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, Ganolfan Ynni gwerth £6 miliwn ar gampws Llangefni o Goleg Menai ar Ynys Môn.
Mae’r cyfleuster modern iawn hwn yn gartref i rai o’r technolegau, offer a chyfleusterau carbon isel gorau yn y Deyrnas Unedig. Y gobaith yw y bydd y Ganolfan yn helpu i sicrhau bod Ynys Môn ar flaen y gad o ran darparu sgiliau i gefnogi’r sector ynni hwn sy’n tyfu. Mae cynaliadwyedd yn ganolog i’r adeilad a defnyddiwyd y technolegau carbon isel diweddaraf i’w adeiladu.
Yn y lansiad, dywedodd Prif Weinidog Cymru bod y Ganolfan Ynni yn rhan bwysig iawn o ddymuniad Ynys Môn i fod yn ‘ynys ynni’:
“Newid yn yr hinsawdd yw un o’r heriau amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol mwyaf sy’n wynebu’r blaned. Mae dyfodol ein lles materol a’n lles cymdeithasol yn dibynnu ar lwyddo i gyflenwi digon o ynni carbon isel fforddiadwy.
“Ar fy ymweliad cyntaf â Gogledd Cymru yn rhinwedd fy swydd fel Prif Weinidog Cymru, cefais gyfle i drafod ein gweledigaeth ar gyfer y cyfleuster pwysig hwn gyda Choleg Môn, Cyngor Sir Ynys Môn a chynrychiolwyr o’r diwydiant ynni. Mae’r ganolfan nawr wedi’i chwblhau ac mae’n barod i chwarae rhan bwysig iawn yn llwyddiant menter yr Ynys Ynni. Mae gan hyn, yn ogystal â chyhoeddiad diweddar Llywodraeth Cymru bod yr ynys nawr yn Barth Menter, y potensial i drawsnewid yr economi leol.
“Ar un adeg, roedd Cymru ar flaen y gad gydag ynni carbon. Ein nod nawr yw bod ar flaen y gad gydag ynni carbon isel hefyd. Mae dipyn o her i’r agenda hanfodol hwn ond mae’n gyffrous ac yn hanfodol hefyd. Bydd y ganolfan yn sicrhau bod gennym bobl fedrus a thalentog ar gael i weithio yn y sector ynni pwysig hwn yng ngogledd-orllewin Cymru a thu hwnt.”
Ychwanegodd Mr Jones: “Hoffwn longyfarch Pennaeth Coleg Menai a’i dîm a’u partneriaid yn y sectorau cyhoeddus a phreifat am eu gwaith yn datblygu cyfleuster mor rhagorol. Rwy’n dymuno bob llwyddiant i’r Ganolfan ac i fenter Ynni’r Ynys.”
Wrth siarad yn yr agoriad swyddogol, dywedodd Dafydd Evans, pennaeth Coleg Menai: “Un o’r rhai cyntaf i weld seiliau’r ganolfan yn cael eu gosod oedd Prif Weinidog Cymru ac roedd yn briodol ein bod yn ei groesawu’n ôl i weld y prosiect wedi cael ei wireddu.
“Mae economi’r byd wedi newid llawer ers iddo ymweld â ni gyntaf ac mae’n bwysicach nag erioed bod gan ein pobl ifanc y sgiliau sydd eu hangen arnynt i gystadlu am swyddi mewn unrhyw sector. Fodd bynnag, mae’r ganolfan hon yn unigryw gan ei bod yn gallu darparu sgiliau a hyfforddiant i’r diwydiant ynni carbon isel. Mae hyn yn hanfodol yn ein heconomi gan fod potensial gan y sector i greu twf sylweddol yn lleol ac yn genedlaethol mewn blynyddoedd i ddod.
Bydd y Ganolfan Ynni'n cynnal cyrsiau arbenigol i bobl ifanc hyfforddi ac i weithio yn y diwydiant ynni.
Dywedodd Sasha Wynn Davies, Cyfarwyddwr Rhaglen Ynys Ynni Môn: “Mae’r Ganolfan Ynni yn dangos y weledigaeth wirioneddol a’r ymrwymiad sydd gan Coleg Menai i fanteisio i’r eithaf o’r cyfleoedd sy’n codi o orsaf ynni niwclear presennol yr Wylfa, adeilad niwclear newydd cwmni Horizon a phrosiectau Ynys Ynni ehangach.
“Mae Coleg Menai yn brif bartner yn Rhaglen Ynys Ynni Môn ac mae hwn yn gam mawr ymlaen i’r Coleg gan arwain y gwaith o ddarparu Sgiliau Ynni yng Ngogledd Cymru a thu hwnt.”
Dywedodd Jean Llywellyn OBE, Prif Weithredwr yr Academi Sgiliau Cenedlaethol ar gyfer Niwclear:
“Mae’r Ganolfan Ynni newydd yn gyfleuster rhagorol i ddarparu cyrsiau newydd a chyrsiau cyfredol a bydd yn chwarae rhan bwysig iawn yn cynorthwyo dysgwyr lleol i ddilyn llwybr gyrfa esmwyth i’r sector niwclear. Bydd y Ganolfan yn cynnig cyrsiau mewn weldio a saernïo haearn sydd eu hangen ar gyfer datgomisiynu niwclear yng Ngorsaf Ynni’r Wylfa sydd gerllaw a hefyd, ar gyfer y prosiect ynni niwclear newydd hefyd. Bydd cyfleusterau’r Ganolfan Ynni ar gael i ni allu cynnig ein gwasanaethau reit ynghanol gweithgareddau niwclear Gogledd Cymru.
Hefyd, bydd y Ganolfan Ynni yn gartref i gyfleusterau weldio a saernïo mwyaf modern Cymru. Bydd yno hefyd adran arloesi busnes a chyfleusterau cynadledda o’r radd flaenaf.
Llun: Carwyn Jones