Mwy o Newyddion
Addewid dileu tlodi plant
Heddiw (3 Tachwedd) mewn Cynhadledd Genedlaethol ar Dlodi Plant bydd elusen blant flaenllaw a chriw o blant a phobl ifanc yn galw ar wleidyddion a phenderfynwyr allweddol i gadw eu haddewid o ddileu tlodi plant yng Nghymru erbyn 2020.
Yn y gynhadledd bydd James Pritchard, pennaeth Achub y Plant yng Nghymru yn dweud: “Heddiw rwyf yn galw ar arweinwyr yr holl bleidiau gwleidyddol i ailddatgan eu haddewid i’n plant a’n pobl ifanc i ddileu tlodi plant erbyn 2020.
"Ry’n ni’n ymwybodol nad yw hyn yn mynd i fod yn dasg hawdd ond ni all Cymru fforddio i adael i 200,000 o blant dyfu i fyny yn dlawd. Os gwnawn ni hynny byddwn yn wynebu mwy o broblemau yn y dyfodol oherwydd ry’n ni’n gwybod bod plant o gefndiroedd tlawd yn fwy tebygol o ddioddef problemau o ran eu hiechyd, i fwynhau llai o gyfleoedd mewn bywyd a ddim gwneud cystal yn yr ysgol. Ry’n ni hefyd yn gwybod eu bod yn fwy tebygol o fod yn dlawd fel oedolion ac yn eu tro dwyn eu plant eu hunain i fyny mewn amgylchiadau o dlodi.
"Yn ei dyddiau cynnar fel ymrwymodd Llywodraeth Cymru i ddileu tlodi plant erbyn 2020, addewid yr oeddem ni yn Achub y Plant yn falch iawn o’i gweld yn cael ei hadlewyrchu yn gynharach eleni pan gyhoeddwyd y Strategaeth Tlodi Plant Cymru.
“Ond er nad yw Chwefror 2011 mor bell yn ôl â hynny, mae Cymru wedi newid yn sylweddol. Mae gennym bwerau newydd wrth y llyw, Llywodraeth newydd a Chynulliad sy’n cynnwys nifer o wynebau newydd. Rydym yn ceisio ymgodymu gyda sefyllfa economaidd sy’n mynd o ddrwg i waeth a gyda lefelau diweithdra ymhlith yr ifanc nas gwelwyd eu tebyg o’r blaen yn ogystal â phrinder swyddi. Mae tlodi plant yng Nghymru ar gynnydd ac nid yw’r rhagolygon yn edrych yn obeithiol gyda’r darogan y bydd 800,000 yn fwy o blant yn cael eu magu mewn tlodi yn y Deyrnas Unedig erbyn 2020.
"Mae angen i bob arweinydd o bob plaid gweleiyddol yng Nghymru ailymrwymo i wneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau na fydd hyn yn digwydd. Ni ellir caniatáu i hyn fethu, i gael ei anghofio neu i lithro i lawr y rhestr o flaenoriaethau.”
Trefnir y gynhadledd ‘Awchu Am Newid’ gan Achub y Plant a Plant yng Nghymru. Y nod yw cyflwyno trafodaeth fywiog ar sut y gall pawn chwarae rhan wrth fynd i’r afael a lleihau lefelau tlodi plant yng Nghymru.
Ychwanegodd Sean O’Neill Cyfarwyddwr Polisi Plant yng Nghymru a Chadeirydd Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru: “Mae gwir gyfle gan Lywodraeth newydd Cymru adeiladu ar ei record yn y gorffennol ac ailddatgan eu hymrwymiad i blant Cymru. Nid yw hinsawdd economaidd heriol a Llywodraeth Prydain sy’n benderfynol o wthio trwodd fesurau llym sy’n effeithio'r rhai mwyaf bregus yn gyntaf, yn rheswm dros roi’r ffidil yn y to neu ein hatal rhag gweithredu nawr. Mae angen i bob gwleidydd flaenoriaethu cynlluniau sy’n cynnal teuluoedd sydd gwir angen eu cymorth heddiw. Mae angen iddynt hefyd edrych at ddatblygu datrysiad cynaliadwy i helpu i dorri cylch dieflig tlodi sy’n llethu cymaint o deuluoedd yng Nghymru.”
Bydd y siaradwyr yn cynnwys Gwenda Thomas AC, y Dirprwy Weinidog dros Blant, Llywodraeth Cymru; Yr Athro Syr Mansel Aylward, Cadeirydd Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llysgenhadon Ifanc Achub y Plant.
Bydd plant a phobl ifanc o ardaloedd yng Nghaerdydd - sef Llysgenhadon Ifanc Achub y Plant Children - yn ganolbwynt i’r Gynhadledd. Yn ystod y dydd byddent yn cyflwyno eu syniadau nhw ar nifer o themâu sy’n gysylltiedig â thlodi plant ac yn cyfleu eu barn nhw ar bethau drwy gyfrwng cyflwyniadau, sgets, ffilm fer ac adroddiad tywydd arbennig!
Bydd y Llysgenhadon Iau o Ysgol Gynradd Millbank yn Nhrelái, Caerdydd yn canolbwyntio ar y cysylltiadau rhwng tlodi ac iechyd gwael a byddent yn dangos ffilm animeiddiad a gynhyrchwyd ganddyn nhw dan y teitl ‘Ardaloedd Di-fwg’. Enillodd yr animeiddiad wobr yn ddiweddar yng Ngwobrau ‘Tobacco Control Excellence Awards’ Ash Cymru.
Mae’r Llysgenhadon o Ysgol Gynradd Moorlands yn Sblot yn galw am gymunedau gwell ble maent yn teimlo’n saff i chwarae ynddynt. Dewisodd y Llysgenhadon Hŷn o Ysgolion Uwchradd Willows, Sant Teilos ac Whitchurch High ymwchilio i gostau cynyddol bwyd a thlodi bwyd ymysg teuluoedd. Mae Swyddi a Chyflogaeth hefyd yn ymgyrch y mae’r Llysgenhadon Hŷn wedi bod yn gweithio arni gyda Llysgenhadol eraill o wledydd y DU.
Bydd y Gynhadledd yn cael ei chyd-gadeirio ar y cyd gan Gyn Prif Weinidog Cymru Rhodri Morgan a Llysgenhadon Ifanc Achub y Plant, Rhian Fish a Caitlin Sweeny, 10 oed.
Meddau Caitlin: “Mae bod yn Llysgennad yn cŵl. Rydw i’n edrych ymlaen at gyd-gadeirio’r Gynhadledd ‘da Rhodri Morgan a Rhian er fy mod i’n teimlo braidd yn nerfus gan y bydd yna lond lle o bobl bwysig. Ry’n ni’n gobeithio cael hwyl ond erbyn diwedd y dydd y gobaith yw y bydd y bobl bwysig yma yn dweud wrthon ni be’ maen nhw am ei wneud i wella bywydau plant sy’n byw mewn tlodi yng Nghymru.”