Mwy o Newyddion

RSS Icon
04 Tachwedd 2011

Gwenwyno bywyd gwyllt yn parhau

Union ganrif yn ôl, fe waharddwyd yr arfer barbaraidd o osod abwyd wedi’i wenwyno allan yng nghefn gwlad i ladd bywyd gwyllt. Ond, er gwaethaf hynny, mae adroddiad newydd a gyhoeddwyd ddoe (dydd Iau 3 Tachwedd) gan yr RSPB, yn dangos bod yr arfer hwn yn parhau i fod yn broblem fawr ar gyfer adar ysglyfaethus yng Nghymru.

Yn seiliedig ar y casgliadau arswydus hyn, mae'r RSPB yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i wahardd meddiant y gwenwynau hyn yng Nghymru. Mae Llywodraeth yr Alban eisoes wedi rhoi mesurau o'r fath yn eu lle.

Mae’r adroddiad ‘RSPB 2010 Birdcrime’ yn rhestru 42 o achosion o droseddau yn ymwneud ag adar gwyllt yng Nghymru yn 2010. Mae hyn yn cyfrif am dros 6% o achosion tebyg a gofnodwyd drwy Brydain y flwyddyn honno. Ymhlith yr achosion Cymreig roedd 10 yn ymwneud â gosod gwenwyn yn anghyfreithlon, gyda chwech o’r rheiny yn arwain at ladd adar.

Yn 2010, canfuwyd dau farcud coch, un bwncath, ffesant a gwalch marth wedi’u gwenwyno ar draws Cymru. Mae'r RSPB o’r farn mai cynrychioli ‘mond canran fach o’r nifer o weithredau anghyfreithlon o wenwyno a ddigwyddodd yng Nghymru yn 2010 yw’r ffigwr hwn.

Dywedodd Dr Sean Christian, Pennaeth Cadwraeth RSPB Cymru: "Mae hi wedi bod yn anghyfreithlon i wenwyno adar ysglyfaethus ers 1911. Ond, am reswm rhyfedd, nid yw'n anghyfreithlon yng Nghymru i unigolion feddu ar rai o'r gwenwynau mwyaf peryglus, er nad oes ganddynt resymau cyfreithlon i’w defnyddio. "

Mae'r rhestr o gemegolion a ddefnyddir i wenwyno adar ysglyfaethus yn anghyfreithlon yn cynnwys llu o blaleiddiaid amaethyddol, fel Carbofuran, Alphachloralose a Bendiocarb. Fe fydd y gwenwynwr fel arfer yn trochi corff cwningen, ffesant neu golomen gyda'r gwenwyn a gadael yr abwyd mewn man lle mae aderyn ysglyfaethus yn debygol o ddod o hyd iddo.

Mae RSPB Cymru yn galw i’r ddeddf gael ei thynhau fel bod unigolion yn cael eu hatal rhag cael y gwenwynau a enwir ynddi yn eu meddiant os nad oes ganddynt unrhyw ddefnydd cyfreithiol ar eu cyfer.

Yn 2006, fe wnaeth y Llywodraeth Brydeinig flaenorol dderbyn ei fod yn gwneud synnwyr i wneud meddiant ar y gwenwynau yma yn anghyfreithlon i bobl oedd heb awdurdod i feddu arnynt, ond er gwaethaf bodolaeth y gyfraith, nid yw'r Llywodraeth wedi rhestru y plaladdwyr sydd wedi’u gwahardd. Mae hyn er gwaethaf y ffaith bod rheolaethau ar waith yn yr Alban ers 2005, lle mae'r heddlu yn ei chael yn arf ddefnyddiol iawn yn y frwydr yn erbyn troseddau bywyd gwyllt. Defnyddiwyd y gyfraith yno eisoes i ganfod 10 o bobol yn euog am y troseddau hyn.

Mae’r Rhingyll Ian Guilford, Swyddog Troseddau Bywyd Gwyllt De Cymru, ar ymlyniad o Heddlu De Cymru i Gyngor Cefn Gwlad Cymru. Wrth sôn am y mater o ladd adar ysglyfaethus yn anghyfreithlon, dywedodd: "Mae’r troseddau hynny sy’n targedu, neu sy’n ymwneud ag adar ysglyfaethus ac sydd yn effeithio ar eu statws cadwraethol, o bryder mawr i ni. Mae’n briodol felly y dylai'r heddlu ystyried y troseddau yma yn flaenoriaeth iddynt. Mae gwasanaeth yr heddlu yn gwbl ymrwymedig i ddod â’r rhai sy'n cyflawni troseddau bywyd gwyllt o flaen eu gwell. "

Ychwanegodd Dr Sean Christian: "Os yw Llywodraeth Cymru o ddifrif am fynd i'r afael ag erlidigaeth anghyfreithlon o adar ysglyfaethus, mae angen iddi ddechrau cymryd camau ystyrlon i wireddu hynny. Byddai creu rheolau ychwanegol sy’n rheoli pwy sy’n cael meddu ar y gwenwynau hyn yn gam cyntaf cymharol hawdd, yn enwedig gan na fyddai'r rheolau hyn yn effeithio ar ddefnyddio plaleiddiad cyfreithlon. "

Mae’r adroddiad ‘RSPB 2010 Birdcrime’ yn dangos bod y nifer fwyaf o achosion a gofnodwyd o fwriadu i niweidio adar ysglyfaethus wedi’u nodi yn Rhondda Cynon Taf, lle be 11 ohonynt yn 2010. Roedd nifer yr achosion eraill yn erbyn adar ysglyfaethus ar draws siroedd Cymru mewn ffigurau sengl.

Roedd achosion eraill a dderbyniwyd gan yr RSPB yn cynnwys: 10 achos oedd yn ymwneud â chymeryd a gwerthu adar ysglyfaethus, tri achos o gasglu wyau (roedd un o'r rhain yn ymwneud â dwyn wyau barcud coch yng nghanolbarth Cymru), a 10 achos o wenwyno / cam-ddefnydd o blaleiddiad.

Rhannu |