Mwy o Newyddion

RSS Icon
04 Tachwedd 2011

Penodi Llywydd Newydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Mae Huw Lewis, y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, wedi cyhoeddi bod Syr Deian Hopkin wedi'i benodi'n Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Bydd yn dechrau yn y swydd ar 1 Rhagfyr 2011 a bydd yn parhau am 4 blynedd.

Dywedodd Huw Lewis, y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth: "Mae'n bleser gennyf benodi Syr Deian Hopkin yn Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Bydd Syr Deian yn cyfrannu profiad helaeth i'r swydd, sy'n amrywio o aelodaeth o Lys a Chyngor y Llyfrgell Genedlaethol i arwain sefydliad addysgol sylweddol. Rwy'n hyderus y bydd ei sgiliau a'i brofiad yn amhrisiadwy wrth i waith hollbwysig un o'n sefydliadau cenedlaethol barhau i ddatblygu."

Dywedodd Syr Deian Hopkin: "Mae cyfrannu at waith hollbwysig y Llyfrgell Genedlaethol fel ei Llywydd yn anrhydedd enfawr, gan mai hon yw un o'n sefydliadau pwysicaf. Rwy'n edrych ymlaen at ymuno â'm Cyd-Ymddiriedolwyr ac â'r staff i sicrhau bod y Llyfrgell yn parhau i fynd o nerth i nerth. Rwy'n ddefnyddiwr brwd o'r Llyfrgell ers blynyddoedd lawer ac rwyf wedi bod yn aelod o'i Chyngor, felly rwy'n ymwybodol iawn o'i rôl hollbwysig o fewn bywyd diwylliannol a deallusol Cymru. Rwy'n gyffrous iawn ynghylch y datblygiadau posibl yn y dyfodol â'r byd digidol gan y gall pobl Cymru a gweddill y byd elwa cymaint arnynt. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at arwain y Llyfrgell dros y blynyddoedd nesaf".

 

Dywedodd Andrew Green, Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

"Mae staff y Llyfrgell Genedlaethol yn falch iawn fod Syr Deian Hopkin wedi'i benodi'n Llywydd. Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio'n agos ag ef wrth iddo arwain y Llyfrgell i'r dyfodol a hybu ei gwasanaethau, er lles Cymru a'i phobl.”

Cafodd Syr Deian Hopkin ei benodi'n Llywydd ar ôl i'r Arglwydd Wigley o Gaernarfon benderfynu peidio â cheisio cael ei ailbenodi am ail dymor.

 

Llun: Syr Deian Hopkin:

Rhannu |