Mwy o Newyddion
PONTIO i benodi Cyfarwyddwr Artistig
Mae Prifysgol Bangor wrthi’n chwilio am Gyfarwyddwr Artistig i Ganolfan y Celfyddydau ac Arloesi Pontio.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus, a fydd yn gallu siarad Cymraeg, yn arwain y celfyddydau perfformio yng nghanolfan Pontio trwy greu rhaglenni amrywiol i ystod eang o gynulleidfaoedd a bydd hefyd yn arwain y gwaith o feithrin cyfleoedd busnes newydd.
Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais am y swydd hon cyn y dyddiad cau ar 2 Rhagfyr 2011.
Amcan Pontio yw dod â’r celfyddydau, gwyddoniaeth, technoleg a’r diwydiannau creadigol ynghyd ac ysgogi adfywiad economaidd yn y rhanbarth. Mae swydd y Cyfarwyddwr Artistig yn ganolog i ddatblygiad tymor hir Pontio.
Dywedodd Is-ganghellor Prifysgol Bangor, yr Athro John G. Hughes: “Bydd y cyfarwyddwr artistig yn gyfrifol am arwain y celfyddydau perfformio yng nghanolfan Pontio, gan feithrin cynulleidfaoedd newydd a datblygu rhaglenni newydd.
“Un elfen bwysig o waith y Cyfarwyddwr Artistig fydd datblygu gweithgareddau cyfrwng Cymraeg, yn cynnwys comisiynu a chynhyrchu gwaith newydd yn y Gymraeg, er mwyn i ganolfan Pontio ysgogi arloesi a thwf yn y celfyddydau Cymraeg.
“Mae gan broject Pontio eisoes raglen ragorol o theatr, dawns, cerddoriaeth, celf gyhoeddus a digwyddiadau allymestyn sy’n prysur gynyddu. Mae’n amser cyffrous iawn i ymuno â’r tîm.”
Llun: Yr Athro John G. Hughes