Mwy o Newyddion

RSS Icon
04 Tachwedd 2011

Chwalu’r tawelwch am farwolaeth Amy Winehouse

Pan ddarganfuwyd Amy Winehouse yn farw yn ei chartref, merch ifanc, dalentog ac am nifer o flynyddoedd yn benderfynol o ddinistrio’i hun, roedd hi’n ymddangos bod yr act olaf mewn trasiedi llawer rhy gyfarwydd wedi’i chwarae.

 

Roedd y seren, fel cynifer o rai eraill, wedi brwydro ag enwogrwydd a llwyddiant ac wedi troi at gyffuriau, gan yn y diwedd gael ei bwyta gan y dalent oedd wedi’u creu. Gwelwyd enghreifftiau di-rif o’i blaen, o Billie Holliday i Jim Morrison. Ond yn yr achos hwn, ymyrrwyd ar y stori gyfarwydd - dywedodd yr heddlu nad oedden nhw wedi cael hyd i unrhyw gyffuriau yn ei fflat.

 

Hyd yn oed yn fwy o ddirgelwch, roedd patholegwyr yr ysbyty’n ymddangos yn ansicr beth achosodd y farwolaeth. Ni chafwyd hyd i unrhyw gyffuriau yn ei chorff, roedd y wlad yn drist, yn methu â deall, ac wedi cael gwybod efallai y byddai achos ei marwolaeth yn enigma am byth.

 

Mae llys y crwner, fodd bynnag, wedi taflu goleuni hollol angenrheidiol ar y pwnc.

 

Dywedodd Wynford Ellis Owen, Prif Weithredwr, Stafell Fyw Caerdydd: “Pan ddaeth yr heddlu i’r casgliad na chafwyd hyd i unrhyw gyffuriau, roedden nhw wedi anghofio sôn am y tair potel o vodka roedden nhw wedi’u gweld wedi’u taflu o gwmpas y fflat ger ei chorff. Y term cywir am y pethau hyn mewn iaith swyddogol fyddai ‘paraffanelia cyffuriau’ ond byddai cyfeirio atyn nhw yn y fath fodd yn torri’r hud pwerus y mae’r diwydiant alcohol wedi’i daflu dros ein cymdeithas.

 

“Roedd Amy Winehouse wedi dioddef o orddos o gyffuriau, roedd yn gaeth i un o’r cyffuriau mwyaf pwerus y mae’n bosibl ei gymryd, un sy’n cael ei wneud yn llawer mwy angheuol am nad ydym yn ei ystyried yn gyffur per se. Rydym fel arfer yn cyfeirio at ‘gyffuriau ac alcohol’ gan roi iddo’r gwahaniaeth deddfwriaethol hynny sy’n caniatáu iddo gadw ei enw da.

 

“Mae’r broses fytholegol hon mor bwerus fel y gall guddio pob math o wirioneddau anffodus o dan y mat, gan gynnwys y ffaith bod chwarter o’r holl farwolaethau ymysg pobl ifanc yn eu harddegau’n digwydd o ganlyniad i alcohol, mwy na throseddau â chyllyll.

 

“Gadewch i ni ddychmygu eu bod wedi cael hyd i heroin yng nghartref Amy Winehouse a bod yr heddlu’n dewis peidio â’i ystyried fel cyffur, a bod achos y farwolaeth wedi’i nodi’n syml fel digwyddiad rhyfedd, byddai’r adwaith yn fyddarol.

 

“Mae alcohol yn lladd mwy o bobl na heroin bob blwyddyn llawer gwaith drosodd. Mae ei hollbresenoldeb fel cynnyrch ar silffoedd yn ein harchfarchnadoedd, ar ein teledu ac yn awr yn treiddio i mewn i bob perthynas a rhyngweithiad cymdeithasol a rennir rhwng pobl, yn llethol.

"Mae’r gafael pwerus sydd gan y cyffur hwn dros ein cymdeithas yn cael ei amlygu yn achos Amy Winehouse, y defnyddiwr cyffur proffil uchel oedd, ar yr olwg gyntaf, wedi marw’n enigmatig heb fod wedi cael gorddos o gyffur.

 

“Hyd nes ein bod yn onest am alcohol ac yn alw'r hyn ydyw - cyffur peryglus, pwerus, caethiwus a fyddai, petai wedi’i greu, yn cael ei wahardd fel cyffur Dosbarth A, - byddwn yn parhau i fod yn dystion i drasiedïau a cholledion sy’n dod o’i ddefnyddio’n ddiwahân.

 

“Fodd bynnag, gall llawer iawn o’r trasiedïau hyn ddigwydd i bobl nad sy’n amlwg yn y cyfryngau ond sy’n cael eu gwneud yn sâl, yn flinedig, yn ddi-waith, yn ddigyfaill ac yn anobeithiol gan y peth, pobl y gall cymdeithas eu beio am eu ‘gwendidau’. Mae hyn yn ddinistr tawel a didostur a achosir gan alcohol, rhywbeth sy’n parhau heb ei gyfyngu oherwydd ein bod eto i dorri hud y diwydiant alcohol.”

 

Llun: Wynford Ellis Owen

Rhannu |