Mwy o Newyddion

RSS Icon
04 Tachwedd 2011

Un mewn wyth o ddefnyddwyr Cymru yn dioddef o dwyll adnabyddiaeth

Bydd un mewn wyth o bobl Cymru yn dioddef o ladrata adnabyddiaeth yn 2011 yn ôl ffigurau a ddatgelwyd yr wythnos yma yn Uwchgynhadledd e-Droseddd Cymru.

Yn rhyfeddol, mae lladrata adnabyddiaeth yn costio £38 biliwn y flwyddyn i economi’r DU - dyma’r math o drosedd sy’n tyfu gyflymaf yn yr 21 ganrif.

Bydd mwy na 520 o gynrychiolwyr yn Uwchgynhadledd e-Drosedd Cymru yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn gweld sut i'w cadw'u hunain yn ddiogel ar lein a bod yn siŵr eu bod nhw a'u cwsmeriaid yn cael eu diogelu rhag lladrad adnabyddiaeth.

Bydd cynrychiolwyr yn clywed yn y gynhadledd mai’r rhai mewn mwyaf o berygl yw pobl rhwng 25 a 44 oed. Y pum targed pennaf yw cyfarwyddwyr cwmnïau, graddedigion mewn swyddi da, pobl ifanc yn rhentu eu cartrefi, pobl mewn fflatiau canol y ddinas ar gyflog mawr a phensiynwyr wedi ymddeol gyda llawer o arian sbâr.

Mae'n debyg fod e-Drosedd yn costio biliwn o bunnau’r flwyddyn i economi Cymru. Mae'n fygythiad gwirioneddol i fusnesau ac i unigolion wrth i bobl ddod yn fwy dibynnol ar dechnoleg a chymaint o fusnes yn cael ei wneud wrth symud.

Yn ôl Rachel Knight, pennaeth gwasanaethau cwsmeriaid yn Experian a siaradwr yn Uwchgynhadledd e-Drosedd , cynnal busnes wrth symud sydd bennaf cyfrifol am y cynnydd mewn lladrad adnabyddiaeth. Meddai, cyn y digwyddiad: “Mae’r dirwasgiad economaidd heb os yn pwyso ar bobl ac yn eu gyrru i droseddu drwy ladrata adnabyddiaeth. Mae'r dechnoleg newydd a chymaint o ddefnydd o rwydweithio cymdeithasol yn ei wneud yn llawer iawn haws.

Mae defnyddio smartphones, gliniaduron a thabledi, a hefyd rannu gormod o wybodaeth bersonol ar rwydweithiau cymdeithasol fel Trydar a Gweplyfr yn ei gwneud yn haws targedu grwpiau oedran ehangach. Mae’n rhaid i ni gofio y gall y rhain fod yn beryglus yn ogystal â bod yn ddefnyddiol.

Bydd cynrychiolwyr hefyd yn clywed oddi wrth Nader Henein o Blackberry ynghylch diogeledd symudol mewn byd lle mae pawb yn prynu a hefyd oddi wrth James Lyne, cyfarwyddwr strategaeth arbenigwyr firysau Sophos a fydd yn trafod sut i ddiogelu’ch hunan yn erbyn y bygythiadau diweddaraf ar y cyfryngau cymdeithasol.

Bydd Stuart Aston, Prif Ymgynghorydd Diogeledd Microsoft hefyd yn cyflwyno i’r gymuned fusnes a bydd asiant arbennig Jeremy Pierczynski, o ganolfan IPR, yr US Homeland Security yn ateb unrhyw gwestiwn ynghylch diogeledd eiddo deallusol.

Meddai aelod newydd o grŵp llywio e-Drosedd Cymru Matt Jukes, Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu De Cymru, a fydd yn agor yr Uwchgynhadledd: “Rydyn ni’n wynebu’r her fod e-Drosedd yn fygythiad sy’n datblygu’n barhaus. Fodd bynnag, mae gwaith gwerth chweil e-Drosedd Cymru’n golygu fod Cymru eisoes yn lle llawer diogelach i wneud busnes na llawer o fannau eraill.

“Pan gynhaliwyd yr Uwchgynhadledd e-Drosedd gyntaf yn 2005, ychydig ohonon ni oedd yn deall mewn gwirionedd beth yn union oedd e-Drosedd. Erbyn hyn, rydyn ni’n gwybod yn llawer rhy dda. Ond dyw e-Drosedd byth yn rhywbeth i’w anwybyddu, mae'n gallu dinistrio busnesau a sefydliadau felly rwyf wrth fy modd mai hon yw’r Uwch Gynhadledd y mae mwy o edrych ymlaen ati na’r un a gynhaliwyd erioed yng Nghymru.

Caeodd y cofrestru ar ei chyfer ynghynt nag erioed o’r blaen yn saith mlynedd ei hanes, fwy nag wythnos cyn ei chynnal. Mae cyfanswm o 570 o unigolion wedi cofrestru ar gyfer yr Uwchgynhadledd. Bydd yn cael ei darlledu’n fyw o 9.00am ar www.ecrimewales.com/live

Mae’r Uwchgynhadledd yn dangos sut y mae Llywodraeth Cymru'n gweithio mewn partneriaeth gyda’r diwydiant diogledd gwybodaeth, gorfodi’r gyfraith a busnesau Cymru. Gobaith y digwyddiad yw y bydd y grwpiau hyn yn dod at ei gilydd i ddysgu, rhannu ymarfer gorau, gweld a deall syniadau newydd a ffurfio perthnasau newydd yn y frwydr ryngwladol, barhaus, yn erbyn e-Drosedd.

Mae'r digwyddiad yn rhan o ganolbwynt ehangach ar ymddiriedaeth a diogeledd ledled Llywodraeth, yr heddlu a'r sector cyhoeddus. Yr amcan yw darparu gwasanaethau diogel, diogelu busnesau, diogelu oedolion a phlant ar lein a rhoi cyfle i bawb gymryd rhan lawn yn yr agenda ddigidol ac arwain bywydau llawnach, mwy bywiog.

Y prif noddwyr yw Cassidian, Logicalis a Spectrum Internet a bydd mwy na 30 o arddangoswyr o bob sector yn bresennol.

Mae e-Drosedd Cymru’n cael cyngor gan grŵp llywio o arbenigwyr gan gynnwys Llywodraeth Cymru, pedwar Heddlu Cymru, y Ffederasiwn Busnesau Bychan, Morgan Cole Solicitors, KPMG, Get Safe Online, Crimzn, Symantec.cloud, Sequence, Prifysgol Casnewydd a CRYPTOCard.

Llun: Matt Jukes, Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu De Cymru

Rhannu |