Mwy o Newyddion
Moeseg rygbi
YN dilyn cyfaddefiad Warren Gatland iddo ef a’i gyd-hyfforddwyr feddwl am drefnu i aelod o reng flaen Cymru ffugio anaf yn ystod y gêm yn erbyn Ffrainc wythnos diwethaf, bu tipyn o drafod ynglŷn â’u moeseg.
Y gwir plaen yw na chymerwyd y cam a fyddai wedi esgor ar sgrymiau digystadleuol a hynny’n arwain at lai o broblemau i’r pac yn dilyn colli’r capten a blaenasgellwr, Sam Warburton, a dderbyniodd gerdyn coch wedi 18 munud o’r gêm yn rownd gynderfynol Cwpan y Byd.
Clywyd gan rannau o’r Wasg fod y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol (IRB) yn meddwl a allen nhw o leiaf gynnal rhyw fath o archwiliad i mewn i ddatganiad Gatland, ond ffwlbri dwl fyddai gwneud hynny.
Bore echddoe, doedd ’na ddim ymateb swyddogol wedi dod oddi wrth yr IRB ac fe ddylai’r bennod gau yn bendant o ran unrhyw broblem i Gatland, er y gallai’r Bwrdd ddatgan na fyddent yn goddef ffugio anaf tebyg i’r hyn a grybwyllwyd gan hyfforddwr Cymru.
Tra bydd Cymru a Warburton yn absennol o’r ffeinal fore drennydd (yn lle hynny’n wynebu Awstralia’r bore ’ma’n y Gêm Efydd i benderfynu pwy fydd yn gorffen yn y trydydd safle), bydd un aelod o dîm Seland Newydd yn chwarae’n y ffeinal a dwyn i gof un o ddigwyddiadau mwyaf erchyll a pheryglus hanes y gamp.
Chwe mlynedd yn ôl, ym munudau cynnar y Gêm Brawf Gyntaf rhwng y Llewod a Seland Newydd yn Christchurch, roedd bachwr y Teirw Duon, Keven Mealamu, yn un o ddeuawd gododd capten y Prydeinwyr, Brian O’Driscoll, ben i waered a’i wthio lawr i’r tir gan achosi anaf difrifol i ysgwydd y Gwyddel.
I ddarllen mwy MWY