Mwy o Newyddion

RSS Icon
20 Hydref 2011

Galw am ddiogelu gorsaf gwylwyr y glannau

MAE Llywodraeth Cymru wedi galw ar Lywodraeth y DU i ailfeddwl ynghylch ei chynlluniau i israddio un o orsafoedd prysuraf gwylwyr y glannau.

Yn rhan o’r cynigion diwygiedig i foderneiddio gwasanaeth Gwylwyr y Glannau, sy’n ystyried dyfodol Canolfannau Cydgysylltu Achub ar y Môr ar draws y DU, mae Llywodraeth y DU yn cynnig cau’r Ganolfan Cydgysylltu Achub yn Abertawe, sef gorsaf brysuraf Cymru a’r drydedd brysuraf yn y DU.

Yn yr ymgynghoriad gwreiddiol, cynigiwyd cadw un is-ganolfan ddydd yn Abertawe.
Bellach, mae’r ail ymgynghoriad yn cynnig cadw dwy ganolfan ar agor 24/7 yn Aberdaugleddau a Chaergybi a chau gorsaf Abertawe’n llwyr.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones: “Mae Gwylwyr y Glannau’n gwneud gwaith rhagorol yn cadw ein glannau’n ddiogel.

“Dros y misoedd diwethaf bûm yn trafod y cynigion hyn gyda phobl ym mhob rhan o Ogledd, De a Gorllewin Cymru ac roedd pawb yn ddiwahân yn dweud yr un peth – mae’r cynigion hyn yn gwbl afresymol. Mae dros filiwn wedi llofnodi deiseb yn gwrthwynebu’r cynigion, ac mae hynny’n dangos yn glir pa mor gryf yw teimladau pobl yn erbyn y cynlluniau.

“Mae mwy a mwy o longau masnachol a chychod pleser ar hyd ein glannau y dyddiau hyn, a bydd y cynnydd hwn mewn prysurdeb yn parhau i roi pwysau ar wasanaethau argyfwng ein harfordir.”

Wrth ymateb i ymgynghoriad Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU, mae Llywodraeth Cymru wedi galw am gadw’r tair canolfan Cydgysylltu Achub ar y Môr ar agor 24/7, ac wedi argymell y dylai’r gorsafoedd gael eu huwchraddio’n briodol er mwyn gwneud y defnydd gorau o’r dechnoleg ddiweddaraf.

Dywedodd y Prif Weinidog: “Mae angen i Lywodraeth y DU ailystyried ei chynigion ac ymchwilio i opsiynau eraill a fyddai’n cadw pob gorsaf yng Nghymru ar agor.

“Nid ydym wedi’n argyhoeddi na fyddai’r cynigion i leihau nifer y Canolfannau Cydgysylltu Achub ar y Môr yn cael unrhyw effaith ar yr amseroedd ymateb ac, o ganlyniad, ar ddiogelwch pobl.

“Rydym ni o’r farn bod y rhwydwaith presennol o dair Canolfan Cydgysylltu Achub yn gweithio’n dda yng Nghymru. Mae eu lleoliad daearyddol yn sicrhau eu bod o fewn cyrraedd cyflym ac effeithiol i wasanaeth Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau.

“Rydym yn ystyried ei bod yn hanfodol cadw tair Canolfan Cydgysylltu Achub ar y Môr yng Nghymru er mwyn cynnal a gwella diogelwch arfordir Prydain.”

Nid yw Llywodraeth Cymru o’r farn bod Llywodraeth y DU wedi darparu tystiolaeth ddigon cadarn ynghylch y modd y bydd y canolfannau eraill yn ymdopi â’r galw presennol – heb sôn am y galw a wynebir yn y dyfodol – os caiff y cynigion i gau canolfannau eu gwireddu.

Mae Llywodraeth Cymru’n cydnabod bod cadw’r canolfannau ar agor yn Aberdaugleddau a Chaergybi yn ateb rhai o’r gofidion ynghylch yr angen i ddarparu gwasanaethau trwy’r Gymraeg.
 

Rhannu |