Mwy o Newyddion
Terfyn oedran tyllau cosmetig
Mae’r Gweinidog Iechyd Lesley Griffiths eisiau clywed barn pobl ynghylch sut y gellir gwneud tyllu cosmetig yn fwy diogel i bobl ifanc. Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cyflwyno oedran cydsynio er mwyn sicrhau bod rhiant neu warcheidwad wedi rhoi ei ganiatâd cyn y gall person o dan 16 oed gael triniaeth tyllu cosmetig. Mae’r ymgynghoriad yn gwireddu un o’r camau gweithredu allweddol yn y Rhaglen Lywodraethu a gyhoeddwyd yn ddiweddar.
Ar hyn o bryd, gall awdurdodau lleol yng Nghymru fynnu bod busnesau sy’n cynnig triniaeth tyllu cosmetig yn cael eu cofrestru ac yn dilyn rheolau ynghylch glanweithdra a hylendid, ond nid oes yna derfyn oedran ar gyfer tyllu cosmetig. Gall person ifanc, felly, gael triniaeth tyllu cosmetig heb ganiatâd rhiant neu warcheidwad, cyn belled â’i fod yn deall beth sy’n cael ei wneud iddo a’r peryglon sy’n gysylltiedig â’r driniaeth.
Dywedodd Ms Griffiths: “Er bod pobl yn meddwl ei bod yn bosibl cau tyllau cosmetig, mae problemau’n codi yn eithaf aml. Gall rhai pobl ifanc ddatblygu heintiau neu gymhlethdodau am eu bod yn cuddio’r twll, ac unrhyw haint i’r twll, rhag eu rhieni neu warcheidwaid. Rwy’n meddwl felly ei bod hi’n bwysig ystyried a ddylem ni gyfyngu ar yr oedran lle gall pobl ifanc gael triniaeth tyllu cosmetig heb ganiatâd rhiant neu warcheidwad. Rwy’n gweld y cynigion fel ymdrech i warchod pobl ifanc.”
Ychwanegodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Tony Jewell: “Gall nifer o broblemau godi yn sgil triniaeth tyllu cosmetig gan gynnwys heintiau’r croen, rhwygo’r croen a chwyddo. Er bod cymhlethdodau difrifol yn anarferol, maent yn codi’n bennaf pan ddefnyddir offer nad ydynt yn lân neu wedi’u sterileiddio, lle nad yw’r safle neu’r arferion yn hylan ac/neu os nad yw’r ôl-ofal yn ddigon da.”