Mwy o Newyddion

RSS Icon
20 Hydref 2011

60 mlwyddiant Parc Cenedlaethol Eryri

Mae amryw o weithgareddau nodweddiadol wedi eu cynnal tros y misoedd diwethaf er mwyn dathlu 60 mlwyddiant Parc Cenedlaethol Eryri. Mae’r gweithgareddau yn rhoi braslun o’r gwaith amrywiol sy’n cael ei gwblhau er budd cymunedau o fewn y Parc a’r ymwelwyr a ddaw yma o bob cwr o’r byd.

Mae’r 60 mlwyddiant yn gyfle i gydnabod y gwaith caled sy’n cael ei gwblhau i wella rhinweddau arbennig y Parc yn ogystal a hyrwyddo’r ardal er lles y cymunedau lleol sydd oddi fewn i’w ffiniau.

Fel rhan o’r dathliadau, agorwyd dau lwybr newydd sef Llwybr Pen-y-Gwryd a llwybr Taith Ardudwy. Cynhaliwyd amryw o deithiau cerdded gan gynnwys teithiau wedi eu teilwra’n arbennig ar gyfer y llai abl. Bu staff y Parc Cenedlaethol ar daith feics noddedig yn codi arian ar gyfer elusen Achub y Plant.

Roedd yr holl ddigwyddiadau tros y misoedd diwethaf yn arwain at ddiwrnod Hydref 18eg sef y diwrnod lle dynodwyd Eryri fel Parc Cenedlaethol yn 1951. I ddathlu’r achlysur cafodd un o brosiectau diwylliannol y Parc Cenedlaethol, ‘’Rhyfeddodau Eryri’’ ei gyflwyno i’r cyhoedd yn Oriel Croesor. Mae’r prosiect yma sy’n rhedeg trwy gydol y flwyddyn, yn dathlu’r amrywiaeth o ryfeddodau o fewn y Parc Cenedlaethol trwy lenyddiaeth a llun. Mae’r 60 rhyfeddod a enwebwyd gan y cyhoedd yn drawstoriad o’r hyn sy’n gwneud Eryri yn le arbennig.

Dywedodd Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Aneurin Phillips: “Mae rol y Parc Cenedlaethol wedi esblygu dros y blynyddoedd. Mae’r Parc yn parhau i ddatblygu prosiectau a polisiau yn unol a’i phwrpasau statudol er mwyn sicrhau fod oblygiadau cadwraethol y Parc yn cael eu cyflawni. Yn ogystal, mae diogelu a dehongli diwylliant a threftadaeth y Parc yn flaenoriaeth ac yn gam pwysig yn natblygiad y Parc."

Rhannu |