Mwy o Newyddion
Ymateb i dân Fforestfach yn arbed misoedd o drafferth i drigolion
Byddai tân Fforestfach wedi llosgi am fisoedd oni bai bod Cyngor Abertawe a'i bartneriaid wedi cymryd camau i ddatrys y broblem yn gyflymach.
Mae adroddiad newydd yn datgelu sut mae penderfyniad yr awdurdod i ariannu gwaith i ddiffodd y tân yn gyflymach wedi arbed teuluoedd a busnesau rhag dioddef misoedd o fwg a llygredd aer.
Yn ôl yr adroddiad a fydd ger bron Cabinet Cyngor Abertawe yr wythnos nesaf, diffoddwyd y tân - a oedd yn cynnwys miloedd o dunelli o falurion teiars a daflwyd yn anghyfreithlon - yn gyfan gwbl o fewn 23 diwrnod ond mae'n bosib y byddai'n dal i losgi heddiw ond bai bod camau wedi cymryd i'w ddiffodd.
Yn ôl Roger Thomas, Rheolwr Gr?p Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, roedd y partneriaid wedi cymryd y camau mwyaf effeithiol i osgoi misoedd o ofid i drigolion a busnesau lleol.
Meddai: "Cytunwyd ar y strategaeth fwyaf effeithiol i ddiffodd y tân yn gyflym a lleddfu gofid a'r baich ar drigolion a busnesau lleol."
Mae'r awdurdod yn dal i weithio gyda swyddogion Llywodraeth Cymru a'r cwmni yswiriant i adennill mwy na £1.5m o gostau hyd yn hyn.
Mae'r adroddiad i'r Cabinet gan y Prif Weithredwr, Jack Straw, yn adrodd sut yr oedd diffoddwyr tân yn wynebu 5,000 o falurion teiars, wedi'u taflu'n anghyfreithlon, ar dân yn hen ffatri Mettoys ar 16 Mehefin eleni, a hynny ar ystâd ddiwydiannol brysur gyda chartrefi mor agos â chanllath o'r tân.
Llwyddwyd i gael y tân o dan reolaeth o fewn 36 awr. Serch hynny, daeth yn amlwg y byddai diffodd y tân yn gyfan gwbl yn her anferth, gan y byddai wedi cymryd misoedd i losgi hyd at ddiffodd ar ei ben ei hun.
Yn ôl y Rheolwr Grŵp, Roger Thomas, roedd dulliau diffodd tân traddodiadol yn aneffeithiol ac nid oedd yn ddiogel i anfon diffoddwyr tân i mewn i'r adeilad i'w ymladd o'r tu mewn.
Meddai: "I ddiffodd y tân, roedd rhaid i ni fynd â'r malurion allan fesul rhan a'u rhoi mewn dŵr cyn eu symud o'r safle. Roedd adeiledd y ffatri'n anniogel felly penderfynwyd ei dymchwel mewn ffordd reoledig, gan ddefnyddio peirannau trwm."
Meddai Arweinydd y Cyngor, Chris Holley: "Dyna oedd y peth iawn i'w wneud. Ni allem fod wedi caniatáu i deuluoedd a busnesau fyw gyda'r profiad hwnnw am fisoedd. Gyda'r holl asiantaethau'n cydweithio, cafodd y tân ei ddiffodd cyn gynted â phosib."
Meddai: "Roedd hon yn sefyllfa unigryw a greodd gyfres o heriau sylweddol i'r asiantaethau a ddaeth ynghyd i fynd i'r afael â hi.
"Roedd y rhain yn cynnwys diogelu iechyd pobl leol a lleihau'r effaith ar fusnesau yn yr ardal. Ond roeddem yn gorfod ymdopi â gwynt a oedd yn newid drwy'r amser, yn ogystal â natur y deunyddiau eu hunain a oedd yn atal y tân rhag cael ei ddiffodd yn y ffordd draddodiadol."
Bellach, yn ôl yr adroddiad, mae asiantaethau o rannau eraill o Gymru a gweddill y DU yn dysgu gwersi o brofiad Abertawe i ddiweddaru a gwella eu harferion.
Yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot a ledled ardal Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, sefydlwyd timau amlasiantaeth i nodi ac archwilio eiddo mewn ymgais i fod mor ymwybodol â phosib o risgiau tebyg ac atal digwyddiadau tebyg yn y dyfodol.