Mwy o Newyddion
Chwilio am safleoedd datblygu posib yng Ngwynedd a Môn
Mae Cyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ynys Môn wedi sefydlu Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd (UPC ar y Cyd) sy’n gyfrifol am greu Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd (CDLl ar y Cyd) ar gyfer y ddwy ardal awdurdod cynllunio lleol – nad yw’n cynnwys ardaloedd o Wynedd sydd ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Bydd y CDLl ar y Cyd yn adnabod tir er mwyn cwrdd ag anghenion datblygu Gwynedd a Môn dros y 15 mlynedd nesaf.
Gan weithio ar ran y ddau Gyngor, mae’r UPC ar y Cyd yn awyddus cael gwybod am safleoedd posib i’w datblygu neu eu gwarchod o fewn ardal y CDLl ar y Cyd. Mae’r uned ar y cyd - sy’n ymdrin â Môn a Gwynedd gyfan ac eithrio’r ardaloedd ym Mharc Cenedlaethol Eryri – yn awyddus i ddatblygwyr, tirfeddianwyr, Cynghorau Cymuned, aelodau o’r cyhoedd ac unrhyw rai eraill sydd â diddordeb i gyflwyno’n ffurfiol safleoedd posib i’w cynnwys yn y cynllun.
Bydd yr holl safleoedd a gyflwynir yn cael eu rhoi ar Restr Safleoedd Arfaethedig, a fydd ar gael i’w harchwilio ar wefannau’r ddau Gyngor, a bydd copïau papur ar gael i’w harchwilio yn Neuadd y Dref, Bangor; Siop Gwynedd, Swyddfeydd y Cyngor, Pwllheli; Siop Gwynedd, Swyddfeydd y Cyngor, Dolgellau ac yn Nerbynfa Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (Rovacabin), swyddfeydd Cyngor Sir Ynys Môn yn Llangefni. Bydd y Rhestr sydd wedi ei hagor yn ffurfiol yn ddiweddar yn parhau ar agor tan 13 Chwefror 2012.
Bydd yr UPC ar y Cyd yn cysylltu ag unigolion a sefydliadau oedd yn flaenorol wedi cyflwyno safle i gael ei gynnwys ar Gynllun Datblygu Lleol Ynys Môn, sydd bellach wedi’i dynnu’n ôl, i roi gwybod iddynt fod Rhestr Safleoedd Arfaethedig newydd yn cael ei hagor, ac i roi gwybod iddynt fod rhaid ailgyflwyno safleoedd pe byddent yn dymuno i safleoedd a gyflwynwyd yn wreiddiol ganddynt gael eu cynnwys ar Restr Safleoedd Arfaethedig y CDLl ar y Cyd.
Mae’r Cynghorydd Gareth Roberts, Uwch Arweinydd Portffolio Amgylchedd Cyngor Gwynedd, yn credu ei bod yn hynod bwysig bod pawb yn gwneud y mwyaf o’r cyfle hwn i un ai gyflwyno tir ar gyfer ei ddatblygu, neu i amlygu tir y dylid ei warchod oherwydd ei werth amgylcheddol, gwerth y dirwedd neu werth hamddenol.
Meddai: “Elfen allweddol wrth ddatblygu Cynlluniau Datblygu Lleol yw adnabod safleoedd posib, a adwaenir fel Safleoedd Arfaethedig, ar gyfer amrediad o ddefnydd tir gan gynnwys tai, cyflogaeth a defnyddiau eraill megis defnydd cymunedol a hamdden. Mae hefyd yn bwysig adnabod safleoedd sydd angen eu gwarchod oherwydd eu tirwedd arbennig, mannau agored neu werth cadwraeth.”
Dywedodd Alex Aldridge, Comisiynydd Môn sydd â chyfrifoldeb Portffolio dros Ddatblygu Economaidd, yr Amgylchedd a Phriffyrdd a Thrafnidiaeth: “Mae galw am safleoedd yn ymarfer pwysig o ran casglu gwybodaeth, a fydd gobeithio yn sicrhau y rhoddir ystyriaeth ofalus i safleoedd posib ar gyfer eu cynnwys yn y CDLl ar y Cyd, ac yr ymgynghorir arnynt yn gynnar yn y broses o baratoi’r Cynllun.”
Gellir cael hyd i wybodaeth a manylion pellach ynglŷn â’r meini prawf asesu ar gyfer ystyried safleoedd ar wefan y ddau Gyngor:
www.gwynedd.gov.uk/cofrestrsafleposib neu
www.ynysmon.gov.uk/cofrestrsafleposib
Fel arall gallwch gysylltu â’r Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd ar 01286 685002 neu e-bostio: polisicynllunio@gwynedd.gov.uk