Mwy o Newyddion
Annog athrawon i sefyll etholiad i'r cyngor hunan reoli
Mae’r corff sy’n gyfrifol am gynnal safonau addysgu yng Nghymru’n galw ar athrawon cofrestredig o bob sector o addysg i sefyll etholiad i’w gyngor.
Bu Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn cylchredeg hysbysiadau yr wythnos ddiwethaf (Hydref 10-14) yn dweud y bydd yn cynnal pleidlais o athrawon cofrestredig fis Chwefror i lenwi 12 sedd sy’n cael eu cadw ar gyfer aelodau sy’n cael eu hethol yn uniongyrchol ar y cyngor o 25 aelod.
Mae gweddill yr aelodau’n cael eu dewis drwy broses o benodiadau cyhoeddus ar ôl derbyn enwebiadau gan undebau athrawon a rhanddeiliaid eraill y dilyn hysbysebu’n gyhoeddus.
Hwn fydd y pedwerydd etholiad i’w gynnal ers sefydlu’r corff yn 2000. Mae’r 12 sedd sy’n cael eu hethol yn cynnwys pedair yr un ar gyfer athrawon cynradd ac uwchradd a phedair ar gyfer penaethiaid, dirprwy benaethiaid a phenaethiaid cynorthwyol.
Yn ôl Hayden Llewellyn, Dirprwy Brif Weithredwr y Cyngor, sydd yn swyddog etholiadol ar gyfer yr etholiad, mae’n bwysig fod y cyngor mor gynrychioliadol â phosibl o’r 38,000 o athrawon cofrestredig sydd yng Nghymru.
Cafodd y corff ei sefydlu tua degawd yn ôl, yr un pryd â chyrff tebyg yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, ar ôl nifer o flynyddoedd o ymgyrchu gan athrawon am eu corff proffesiynol eu hunain, fel sydd gan broffesiynau megis meddygaeth, y gyfraith, nyrsio ac eraill.
Mae’n gyfrifol am reoleiddio safonau ymddygiad a gallu athrawon, am hyrwyddo datblygiad proffesiynol athrawon, am gynnal delwedd ac enw da addysgu ac am gynghori gweinidogion y Llywodraeth a gwneuthurwyr polisi eraill ar faterion ynghylch addysgu.
Meddai Mr Llewellyn: “Mae addysgu yng Nghymru wedi elwa yn ystod y ddegawd ddiwethaf o gael cyngor cynrychioliadol cryf, sydd â’i aelodau o bob cangen o’r proffesiwn. Rydyn ni’n awyddus i weld y gynrychiolaeth eang yma’n parhau yn y dyfodol er mwyn i addysgu gael yr arweinyddiaeth y mae ei angen ar adeg o heriau a newid mawr."
Mae un o’r aelodau sy’n ymddeol, Frank Bonello, sydd wedi bod ar y cyngor am 10 mlynedd, yn annog ei gyd athrawon i ddod ymlaen fel ymgeiswyr ar gyfer y seddi gwag.
“Mae’r cyngor yn chwarae rhan hanfodol o gael addysgu wedi’i dderbyn fel proffesiwn cadarn yng Nghymru. Nid yn unig mae’n darparu hunan reoleiddio ond hefyd arweinyddiaeth a llais unedig i’r proffesiwn. Rwy’n gwerthfawrogi fy nghyfnod gyda’r gwaith hwn yn fawr iawn,” meddai.
Ac meddai Frank eto: “Rwy’n annog athrawon dosbarth cyffredin, fel ag yr oeddwn i pan gefais fy ethol gyntaf, i sefyll am y Cyngor. Mae’n gyfle gwych i ddylanwadu ar ddyfodol y proffesiwn.”
I gael lle ar y papur pleidleisio, bydd yn rhaid i athrawon cofrestredig gael cynigydd, eilydd, a phump o athrawon cofrestredig eraill yn yr un categori etholiad fel cefnogwyr. Bydd enwebiadau’n cau ar 23 Tachwedd 2011 a gellir pleidleisio ar lein neu drwy’r post drwy fis Chwefror 2012. Cyhoeddir y canlyniadau ar 9 Mawrth 2012.