Mwy o Newyddion
Arolwg sbyng-digedig!
Mae 13 o blith y 30 o sbyngau môr sydd newydd ddod i’r fei yn y DU wedi cael eu darganfod yn nyfroedd Cymru.
Canolbwynt y chwilio yng Nghymru oedd Gwarchodfa Natur Forol Ynys Sgomer a gogledd arfordir Sir Benfro – llefydd sydd, fel y gwyddom, yn hafan i sbyngau.
Daethpwyd o hyd i 132 o wahanol fathau o sbyngau yma.
Dan arweiniad ymchwilwyr o National Museums Northern Ireland (NMNI) cafodd yr arolwg tair blynedd hwn o sbyngau môr y DU ei gwblhau ym mis Mehefin 2011.
Bu’r gwyddonwyr yn astudio sbyngau o Gymru, Yr Alban, Ynysoedd Sili ac Ynysoedd y Sianel trwy sgwba-deifio a thynnu lluniau o sbesimenau a chasglu samplau.
Yn ogystal â dod o hyd i rywogaethau newydd, cafodd dwy ar bymtheg o rywogaethau prin eu cofnodi yn nyfroedd y DU. Ymddengys mai Cymru yw’r terfyn gogleddol ar gyfer sawl math o sbwng, yn cynnwys Homaxinella subdola – sef
rhywogaeth ganghennog hawdd ei gweld sy’n gyffredin yn Sir Benfro.
Yn ôl Dr Claire Goodwin, biolegydd môr sy’n gweithio i Adran Gwyddorau Naturiol NMNI: “Trwy ddeifio, roedd modd inni samplo cynefinoedd y creigwely a’r rhywogaethau gorchuddiol sydd wedi’u hanwybyddu braidd hyd yn hyn.
“Efallai mai dyna pam y mae cymaint o rywogaethau newydd wedi dod i’r fei.”
Y Cyngor Cefn Gwlad sy’n rheoli Gwarchodfa Natru Forol Ynys Sgomer. Yn ôl Phil Newman, yr Uwch Reolwr: “Rydyn ni’n arolygu ac yn monitro bywyd gwyllt y môr yn rheolaidd o fewn y warchodfa, ond profiad gwych oedd bod yn rhan o arolwg y DU o sbyngau môr. Mae’r wybodaeth a gafodd ei chasglu yn dangos bod gennym lawer iawn i’w ddarganfod a’i ddysgu o hyd am y môr.
“Mae’r data’n rhoi man cychwyn da inni ar gyfer astudiaethau’r dyfodol.”
Yn ystod yr astudiaeth cafodd 218 o ddeifiau gwahanol eu gwneud. Casglodd y gwyddonwyr gyfanswm o 2,027 sbesimenau, a oedd yn cynnwys 166 o wahanol rywogaethau.
Cafodd y prosiect ei ariannu gan yr Esmée Fairbairn Foundation, Scottish Natural Heritage a’r Cyngor Cefn Gwlad.