Mwy o Newyddion

RSS Icon
21 Hydref 2011

Arddangosfa a thrafodaeth “Cymunedau Dwyieithog y Byd”

Bydd cyfle i ddysgu mwy am gymunedau dwyieithog eraill y byd mewn arddangosfa a thrafodaeth ar ddydd Mercher, Tachwedd 2, yn Stiwdio 1, Galeri, Caernarfon.

Trefnir y digwyddiad “Cymunedau Dwyieithog y Byd” gan Ganolfan ESRC dros Ymchwil i Theori ac Ymarfer Dwyieithrwydd ym Mhrifysgol Bangor fel rhan o Ŵyl Gwyddorau Cymdeithas yr ESRC. Bydd croeso i bawb a mynediad am ddim.

Bydd yr arddangosfa yn cynnwys adroddiadau o lygad y ffynnon gan siaradwyr o ieithoedd lleiafrifol ledled y byd ynghylch hawliau iaith, defnydd iaith mewn bywyd preifat a chyhoeddus ac unrhyw ymgyrchoedd cymunedol.

Gyda’r nos, cynhelir trafodaeth panel gyda siaradwyr y Fasgeg, Tibeteg, Lombardeg, Galisieg a Ndebele. Dan gadeiryddiaeth Bethan Jones Parry, caiff y gynulleidfa holi’r panelwyr, a bydd cyfle i bawb rannu syniadau ar sut i wneud y gorau o’n hieithoedd bach. Ceir hefyd sgwrs gan yr Athro Margaret Deuchar, y Dr Peredur Davies a Marika Fusser am ganlyniadau ymchwil y Ganolfan Ddwyieithrwydd yn ogystal â chwis ieithoedd bach.

Dyma raglen y diwrnod:

· 4-7pm: arddangosfa

· 6-7pm: bwffe

· 7-8.30pm: sgwrs a thrafodaeth panel

Bydd yr arddangosfa yn agored i bawb daro mewn, ond nifer cyfyngedig o lefydd sy ar gael ar gyfer y bwffe a’r drafodaeth. I gofrestru ar gyfer y noson, cysyllter â’r Ganolfan erbyn 17 Hydref trwy ffonio 01248 382559 neu e-bostio l.m.thomas@bangor.ac.uk.

Meddai’r Athro Margaret Deuchar, Cyfarwyddwr Canolfan ESRC dros Ymchwil i Ddwyieithrwydd ym Mhrifysgol Bangor, sy’n trefnu’r digwyddiad: “Bydd yr arddangosfa a’r drafodaeth yn gyfle unigryw i ddysgu mwy am wahanol gymunedau dwyieithog. Rydym hefyd yn edrych ymlaen at rannu darganfyddiadau diweddaraf ein canolfan ymchwil â’r gynulleidfa.”

Rhannu |