Mwy o Newyddion
£400,000 er mwyn adfer rhai o adeiladau hanesyddol harddaf Cymru
Mae Huw Lewis, y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, wedi cyhoeddi y bydd rhai o’r adeiladau hanesyddol pwysicaf yng Nghymru ar eu hennill ar ôl i swm o bron £400,000 gael ei neilltuo ar eu cyfer.
Mae’r grantiau hyn, a roddwyd gan Lywodraeth Cymru, yn amrywio o £11,200 i £75,000, ac fe’u clustnodwyd ar gyfer gwaith atgyweirio hanfodol ar yr adeiladau hyn, yn ogystal â gwaith i’w hadfer. Mae adeiladau ym mhob cwr o Gymru ar eu hennill ac yn eu plith mae llawer o addoldai hardd.
Dywedodd Huw Lewis: “Mae’n bleser cyhoeddi bod yr adeiladau hyn wedi cael arian oddi wrth Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru. Bydd y grantiau’n sicrhau bod rhai o’n hadeiladau pwysicaf yn cael eu cynnal a’u cadw er budd y cenedlaethau a ddêl.”
Mae’r arian yn cael ei gynnig ar gyfer y prosiectau a ganlyn:-
Y Pwerdy, Safle Pwll Glo Llwynypia, Rhondda Cynon Taf
Mae’r Pwerdy yn adeilad rhestredig Gradd II – ychydig o safleoedd yng Nghymru sy’n debyg o ran eu maint i’r hen adeilad peiriannau hwn. Cynigiwyd grant o £75,000 er mwyn adfer y to, y waliau a’r ffenestri metel ac er mwyn ailadeiladu parapetau’r talcen.
Eglwys Sant Cynog, Merthyr Cynog, Aberhonddu, Powys
Mae Eglwys Sant Cynog yn eglwys restredig Gradd II* sy’n cael ei defnyddio’n rheolaidd. Cynigiwyd grant o £64,000 i wneud gwaith atgyweirio mewnol ac allanol.
Eglwys Sant Cynin, Llangynin, Sir Gaerfyrddin
Mae’r eglwys hon yn adeilad rhestredig Gradd II* a dyma’r unig gyfleuster cymunedol ym mhentref Llangynin. Cynigiwyd grant o £49,720 i adfer y tŵr.
Eglwys Gatholig Mair a Sant Mihangel, Llan-arth, Sir Fynwy
Adeilad rhestredig Gradd II* ac un o’r eglwysi Pabyddol hynaf yng Nghymru. Cynigiwyd grant o £39,500 a bydd y gwaith atgyweirio’n cynnwys uwchraddio’r gwaith plwm, atgyweirio’r rendrad, uwchraddio’r gwaith coed a gwaith atgyweirio arbenigol ar y ffenestri gwydr lliw.
Glas Hirfryn, Llanrhaeadr, Powys
Adeilad rhestredig Gradd II sydd wedi cadw elfennau’r o’r cynllun canoloesol. Bernir ei fod yn enghraifft gynnar o dŷ lloriog ac ynddo nodweddion o gynllun yn arddull y Dadeni. Cynigiwyd grant o £45,000. Bydd y gwaith yn cynnwys ailadeiladu’r simnai ochrol.
Rhagwelir hefyd y bydd y gwaith hwn yn gyfle da i gynnig hyfforddiant ac i bobl gael gweld sgiliau cadwraeth ar waith.
Plas Tirion, Ffordd Betws, Llanrwst, Conwy
Mae Plas Tirion yn adeilad rhestredig Gradd II* ac yn un o nifer bach o is-dai bonedd a adeiladwyd yn lleol yn ystod ail hanner yr 16eg Ganrif ar gyfer
is-ganghennau neu aelodau iau o’r teulu Wynn o Wydir. Cynigir grant o £22,500 i atgyweirio’r ystlysluniau a’r blaenluniau, i wyngalchu pob gweddlun a simnai ac i dynnu’r ffenestri modern a rhoi yn eu lle ffenestri â physt derw wedi’u mowldio sy’n gydnaws â’r nodweddion gwreiddiol.
Eglwys Sant Simon a Jwdas Sant, Llanddeusant, Sir Gaerfyrddin
Eglwys restredig Gradd II* sy’n dyddio o’r bedwaredd ganrif ar ddeg. Cynigiwyd grant o £19,114 er mwyn tynnu’r giardiau oddi ar y ffenestri ac atgyweirio unrhyw ddifrod i’r gwaith maen.
Eglwys Crist, Bryn-y-Maen, Bae Colwyn
Mae Eglwys Crist yn eglwys restredig Gradd II* a gafodd ei dylunio gan Douglas a Fordham, y penseiri enwog o Gaer. Fe’i hadeiladwyd ym 1897. Cynigiwyd grant o £16,800 i ailbwyntio tŵr yr eglwys a rhannau o’r gweddluniau eraill.
Eglwys y Santes Mair Forwyn (Eglwys y Plwyf) Helygain, Treffynnon, Sir y Fflint
Mae Eglwys y Santes Mair Forwyn yn eglwys restredig Gradd I, a ddyluniwyd gan John Douglas ac a gafodd ei hariannu gan y Dug Westminster ym
1877-8. Cynigiwyd grant o £16,000 i ailbwyntio tŵr yr eglwys a’r gweddluniau eraill.
Eglwys Sant Gwyddelan, Dolwyddelan, Conwy
Eglwys restredig Gradd I. Cynigiwyd grant o £14,000 i ailbwyntio’r eglwys ac i roi haenen o slyri calch drosti. Bwriedir cael gwared ar y paent emylsiwn a gwyngalchu’r waliau y tu mewn hefyd.
Eglwys y Drindod Sanctaidd, Tre’r-llai, Powys
Eglwys restredig Gradd II* sy’n enghraifft wych o eglwys ar Ystad Fictoraidd. Cynigiwyd grant o £11,200 i’w hail-doi, i ailosod y cafnau carreg, i sefydlogi’r tŵr bwtres, i osod ffrâm drws newydd o garreg yn y boelerdy yn lle’r hen ffrâm a ddifrodwyd, tynnu plastr calch a ddifrodwyd a gorchuddio drws y festri â ffelt newydd â stydiau.
Llun: Eglwys Sant Cynog