Mwy o Newyddion

RSS Icon
21 Hydref 2011

Cynllun porthorion canol y ddinas

Efallai y bydd staff arbennig ar gael yn fuan yng nghanol dinas Abertawe i helpu siopwyr i gludo nwyddau i’w cerbydau.


Mae Cyngor Abertawe’n gofyn am farn pobl am bosibilrwydd cyflwyno gwasanaeth porthorion yng nghanol y ddinas.


Mae nifer o opsiynau’n cael eu hystyried sy’n cynnwys loceri hunanwasanaeth a man gollwng â staff.
Bydd y cyngor yn archwilio diddordeb y cyhoedd yn y cynllun cyn gwneud rhagor o waith.


Meddai’r Cyng. Chris Holley, Arweinydd Cyngor Abertawe, “Rydym yn benderfynol o wneud y cyfan y gallwn ei wneud i helpu masnachwyr canol y ddinas yn ystod amser economaidd anodd ac i annog cynifer o bobl â phosib i ddod i ganol y ddinas i ddarganfod popeth sydd ar gael yno.


“Mae cyflwyno cynllun porthorion neu rywbeth tebyg wedi’i godi gan rai siopwyr ond hoffem wybod a yw’n rhywbeth sydd â chefnogaeth eang cyn ystyried y syniad ymhellach.


“Gofynnaf i unrhyw un sy’n dod i ganol y ddinas lenwi’r arolwg rydym wedi’i roi ar-lein a rhoi barn i ni am y syniad.”


Nodwyd cyflwyno gwasanaeth porthorion mewn cynllun gweithredu canol y ddinas a amlygodd amrywiaeth o gynlluniau gyda’r nod o helpu masnachwyr canol y ddinas.


Mae tua £386,000 bellach wedi’i neilltuo i ariannu prosiectau sy’n flaenoriaethau.


Maent yn cynnwys darparu mwy o fannau parcio tymor byr yng nghanol y ddinas, gosod addurniadau blodeuol a basgedi crog ac ymgyrch i helpu i leihau’r gwm cnoi sydd ar ein strydoedd.


Mae mwy o ddigwyddiadau canol y ddinas hefyd yn yr arfaeth.

Rhannu |