Mwy o Newyddion

RSS Icon
29 Medi 2011

Cynlluniau hamdden ar gyfer Niwbwrch i hybu economi’r ynys

Mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau i drawsnewid Coedwig Niwbwrch ar Ynys Môn i’w gwneud yn ased pwysig o ran economi’r ynys.

Lluniwyd cynlluniau cyffrous i ddatblygu amrywiaeth o gyfleusterau hamdden yn y goedwig boblogaidd hon yn dilyn trafodaethau hir gyda thrigolion lleol a sefydliadau allweddol. Nod y datblygiad gwerth £600,000 yw dod â swyddi a ffyniant i’r ardal, a bydd yn cynnwys arlwyo a man gwerthu nwyddau traeth, cyfleuster llogi beiciau a chreu busnes merlota.

Mae’r golygfeydd godidog eisoes wedi gwneud y goedwig a’r traeth yn gyrchfan boblogaidd ar gyfer llawer o ymwelwyr, ond y gobaith yw y bydd y cynlluniau i wella’r cyfleusterau sy’n bodoli a chreu llwybrau newydd yn rhoi’r ardal yn gadarn ar y map gwyliau cartref.

Mae’r cynigion, a gyflwynwyd i awdurdod cynllunio Cyngor Sir Fôn, yn cynnwys:
• derbynfa newydd i helpu ymwelwyr wneud y gorau o’u hymweliad
• 0.7km o lwybrau pob gallu, gan gynnwys llwybr pren dros y twyni at blatfform sy’n edrych allan dros Ynys Llanddwyn, Penrhyn Llŷn ac Eryri

• 17.7km o lwybrau beicio teuluol y gellir defnyddio sgwteri symudedd moduraidd cadarn arnynt hefyd
• 29.6km o lwybrau marchogaeth ceffylau a fydd yn cynnwys cyferbwyntiau
• 4.3km o lwybrau cerdded wedi’u gwella
• 4km o lwybrau cerdded newydd, a fydd yn cynnwys paneli dehongli a gwybodaeth
• man barbeciw a phicnic
• toiledau a chawodydd ar gyfer golchi tywod i ffwrdd cyn mynd adref.
Dywedodd rheolwr ardal lleol CC Cymru, Tim Gordon-Roberts, “Ein nod yw darparu cyfleusterau o’r radd uchaf sy’n dangos pwysigrwydd yr ardal i fywyd gwyllt a’r gymuned, annog ymwelwyr i ddychwelyd, aros am gyfnod hirach a gwario mwy ar yr ynys.

“Bydd y cynnig yn darparu gwerth o leiaf pum diwrnod o gyfleoedd hamdden awyr agored ym mhob tywydd sy’n addas i deuluoedd, wedi’u lleoli ledled y goedwig, y traeth, y gwningar ac Ynys Llanddwyn, a bydd rheolaeth well ar y ffordd y caiff y goedwig ei defnyddio yn lleihau pwysau ar safleoedd bywyd gwyllt sensitif.”

Mae’r cynnig wedi cael cyllid gan y Gronfa Cymunedau a Natur, a gaiff ei gweithredu gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru, a gan Raglen Adfywio Môn a Menai Llywodraeth Cymru.

Mae’r cynnig yn rhan o gynllun rheoli CC Cymru ar gyfer y goedwig hon sy’n eiddo i Lywodraeth Cymru, ac sy’n Ardal Cadwraeth Arbennig – sef dynodiad cadwraeth uchaf Ewrop – oherwydd yr anifeiliaid a phlanhigion prin sydd yn yr ardal.

Dywedodd Tim, “Un o’r pethau rydym eisiau ei wneud yw gweithio gyda’r gymuned i geisio rheoli’n well y ffordd y mae pobl yn defnyddio’r ardal brydferth a sensitif iawn hon.

“Mae’r safle’n cael trafferth ymdopi â niferoedd yr ymwelwyr ar hyn o bryd. Ar ddiwrnodau prysur mae’n rhaid i ni gau’r prif faes parcio pan mae’n llawn. Mae hyn yn creu tagfeydd traffig yn y pentref, mae’n rhaid anfon ymwelwyr i ffwrdd, ac mae hyn yn achosi rhwystredigaeth ymhlith y trigolion.”

Yn ôl y cynlluniau, caiff 100 o fannau parcio eu hychwanegu at y prif faes parcio, gan gynnwys 27 man parcio i bobl anabl, a chaiff maes parcio’r trigolion lleol ei ail-leoli i sicrhau y bydd mannau parcio ar gael i’r gymuned, hyd yn oed ar y diwrnodau prysuraf.

Hefyd gobeithir y gellir sefydlu grŵp gwirfoddolwyr a fydd yn cynnwys trigolion sy’n ymrwymo i ofalu am y safle a chyflawni amrywiaeth o dasgau, a chynllun warden.

Bydd y rhan fwyaf o’r datblygiad yn digwydd o fewn ôl-troed presennol seilwaith y safle er mwyn lleihau’r effaith ar yr amgylchedd sensitif.

Rhannu |