Mwy o Newyddion
Ymchwilio i ddiwygio’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin
Mae grŵp o Aelodau’r Cynulliad wedi cael ei ffurfio i ymchwilio i flaenoriaethau Cymru wrth ddiwygio Polisi Pysgodfeydd Cyffredin y Comisiwn Ewropeaidd.
Mae Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd y Cynulliad Cenedlaethol wedi sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen sy’n cynnwys chwe Aelod ac sydd wedi’i gadeirio gan Julie James AC.
Bydd y grŵp yn ymchwilio i’r materion y bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru eu trafod mewn perthynas â’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredinol ac mae’n galw ar unrhyw un sydd â diddordeb yn y mater i gyflwyno tystiolaeth iddo.
Dywedodd Julie James AC, Cadeirydd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen: “Ar y cyfan, ystyriwyd fod y camau a gymerwyd i ddiwygio’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin y tro diwethaf yn 2002 heb arwain at sector pysgodfeydd cynaliadwy yn Ewrop.
“Mae’n hollbwysig, felly, bod y camau cywir yn cael eu cymryd y tro hwn, a bod Cymru yn sicrhau bod ei blaenoriaethau’n cael eu nodi.
“Gofynnaf i unrhyw un sydd â diddordeb yn y mater hwn i gysylltu â ni i gyflwyno eu syniadau a mynegi barn.”
Fel rhan o’i ymchwiliad bydd y grŵp yn ystyried yr hyn a ganlyn:
- Beth fydd cynigion y Comisiwn Ewropeaidd yn ei olygu i Gymru a’r ffordd y mae Parth Pysgodfeydd Cymru yn cael ei reoli? Yn benodol, a fydd cynigion y Comisiwn i ddatganoli’r rheolaeth dros y pysgodfeydd yn fanteisiol i Gymru?
- Beth fydd cynigion y Comisiwn Ewropeaidd yn ei olygu i hyfywedd cymdeithasol ac economaidd cymunedau arfordirol yng Nghymru?
- Pa effaith fydd newidiadau i’r sector pysgodfeydd ehangach yn Ewrop yn ei gael ar Gymru?
- Beth ddylai Llywodraeth Cymru ei flaenoriaethu yn ei thrafodaethau ar ddiwygio’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin er mwyn sicrhau canlyniad buddiol i Gymru?
- Sut all Cymru sicrhau bod ei barn yn cael ei chlywed yn ystod y trafodaethau hyn?