Mwy o Newyddion
Dwyieithrwydd yn rhan annatod o Gymru gynaladwy
MAE Pennaeth newydd Cyfeillion y Ddaear Cymru, Gareth Clubb, wedi galw am gyd-weithrediad agos rhwng ymgyrchoedd hawliau i’r iaith Gymraeg a hawliau’r amgylchedd.
Mewn erthygl yng rhifyn newydd cylchgrawn annibynnol Y Papur Gwyrdd (Hydref / Tachwedd, 2011) mae Mr Clubb yn dweud: “Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu deddfu i osod ‘datblygu cynaladwy’ fel yr ‘egwyddor trefnu ganolog' i’r sector cyhoeddus yng Nghymru.
"Ni allem orffwys nes bod ôl-troed amgylcheddol Cymru wedi lleihau i’n cyfran gyfartal ar raddfa fyd-eang. Mae unrhyw nod llai uchelgeisiol yn frad i’n chwiorydd a’n brodyr ym mhob gwlad arall.
“Ac ni allem laesu dwylo ’chwaith nes bod pobl Cymru’n gallu derbyn eu holl wasanaethau trwy eu dewis iaith, boed hynny’n Gymraeg neu’n Saesneg. Mae dwyieithrwydd yn rhan annatod o Gymru gynaladwy.”
Yn enedigol o Ben-y-bont ar Ogwr, mae Gareth Clubb yn ymwybodol iawn o’r pwysau a fu ers degawdau i sicrhau statws i’r iaith Gymraeg – ynghyd â’r ymdrechion i warchod cynefinoedd naturiol.
Meddai, “Dim ond ymdrechion anferthol gan fudiadau, gan gynnwys Cyfeillion y Ddaear Cymru, gyda chefnogaeth miloedd ar filoedd o bobl gyffredin, sydd wedi darbwyllo llywodraethau i ddeddfu dros hawliau ieithyddol ac amgylcheddol.”
Ond, meddai Mr Clubb, mae angen i’r ymgyrchu parhau, o ran y Gymraeg a’r amgylchedd: “Megis dechrau yw’r gwaith,” meddai, “ac rydym yn dal i bwyso ar Lywodraeth Cymru i greu Siarter Hawliau Amgylcheddol Cymru fyddai’n cydnabod hawl pobl i fyw mewn amgylchedd glân.”
Yn rhifyn newydd Y Papur Gwyrdd tynnir sylw hefyd at ddau gynllun glo brig newydd sy’n rhwym o achosi mwy o ddifrod amgylcheddol difrifol i holl ardal Blaenau’r Cymoedd.
Mae cwmni datblygu Miller Argent yn gobeithio bron â dyblu eu safle glo brig anferth ym Merthyr Tudful trwy gloddio safle newydd 950 acer i godi 7 miliwn tunnell o lo ar dir cyfagos ger Fochriw rhwng Dowlais a Rhymni.
Bydd cynllun newydd Miller Argent yn ychwanegol at gynllun cwmni Hargreaves o Durham a gytunwyd eisoes gan Gyngor Rhondda Taf i greu safle glo brig newydd ar dir hen Bwll y Twr ger Hirwaun. Ffurfiwyd cwmni ar y cyd gyda 290 cyn-lowyr y Twr i godi tua 6 miliwn tunnell o lo oddi yno er mawr elw.
Meddai golygydd Y Papur Gwyrdd, Hywel Davies: “Bydd y safleoedd hyn yn diflasu bywyd cymunedau megis Hirwaun a Fochriw am flynyddoedd trwy greu swn a llwch. Byddan nhw, hefyd, yn peryglu datblygiadau economaidd gwyrdd, ac yn tanseilio gobeithion am dwf twristiaeth treftadaeth yn yr ardal.
“Yn ehangach na hynny, byddant yn cyfrannu at Gynhesu Byd-eang a Newid Hinsawdd trwy gyflenwi glo i greu trydan trwy ei losgi ym Mhwerdy Aberddawan, achoswr allyriadau carbon deuocsid gwaethaf Cymru. Er yr holl son am ‘Lo Glân’, does dim system CCS – i ddal a storio carbon – mewn bodolaeth i atal allyriadau y nwy tŷ gwydr peryglus hwnnw.”