Mwy o Newyddion
Adolygiad eang o gymwysterau yng Nghymru
BYDD y Dirprwy Weinidog Sgiliau, Jeff Cuthbert, heddiw (29 Medi) yn cyhoeddi manylion adolygiad eang o’r holl gymwysterau sydd ar gael i bobl ifanc rhwng14 ac 19 oed yng Nghymru.
Heddiw, bydd Mr Cuthbert yn dweud wrth Gynhadledd Sgiliau Busnes yn Abertawe ei fod am sicrhau bod y Llywodraeth yn cael gwerth ei harian o’i chymwysterau, yn diwallu anghenion dysgwyr a’u bod yn diwallu anghenion yr economi hefyd.
“Un o addewidion ein maniffesto oedd symleiddio’r system gymwysterau,” dywedodd.
“Ein gweledigaeth yw sicrhau bod cyflogwyr yn deall ac yn gwerthfawrogi’r cymwysterau sydd ar gael i bobl ifanc rhwng 14 ac 19 oed a sicrhau eu bod yn diwallu anghenion Cymru hefyd.
"Dw i eisiau sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei wario ar y pethau iawn er mwyn rhoi i’r economi'r gweithlu medrus sydd ei hangen arni. Dw i eisiau sicrhau bod y dewisiadau sydd ar gael i ddysgwyr yn gwneud gwahaniaeth o ran eu galluogi i symud ymlaen i fyd gwaith neu addysg uwch.”
Bydd yr adolygiad yn eang ond bydd yn canolbwyntio ar dair thema.
* Nodi’r cymwysterau mwyaf perthnasol a sicrhau eu bod ar gael i ddysgwyr.
* Sicrhau bod cyflogwyr yn deall y cymwysterau a bod ganddynt ffydd ynddynt.
* Sicrhau bod y cymwysterau’n parhau i fod yn addas i’r diben.
Eglurodd Mr Cuthbert: “Yn aml, rydym yn clywed bod dysgwyr yn cael mwy o fudd o rai cymwysterau na’i gilydd. Hefyd, rydym yn clywed bod rhai Cymwysterau Galwedigaethol yn fwy effeithiol nag eraill am baratoi pobl ifanc ar gyfer byd gwaith.
"Rydym eisiau gweld pa gymwysterau sydd fwyaf effeithiol a mwyaf perthnasol a pha rai felly y dylid eu hannog.”
Dywedodd y byddent hefyd yn adolygu’r modd y maent yn ariannu addysg ôl-16. Ar hyn o bryd, mae gan y sector hwn dros 10,000 o wahanol gymwysterau.
“Ein hail thema fydd sicrhau bod cyflogwyr yn deall y cymwysterau bod ganddynt ffydd ynddynt. Fel rhan o hyn, mae’n rhaid i ni sicrhau bod yr asesiadau sy’n rhan o’n cymwysterau’n briodol,” dywedodd.
“Rydym wedi ymrwymo i Gymwysterau Cyffredinol a Galwedigaethol sydd wedi llwyddo i greu llawer o’r gweithlu crefftus sydd ei angen arnom. Er hynny, mae’n bryd edrych ar sut mae sicrhau bod y ddau gymhwyster hyn yn cael eu gwerthfawrogi i’r un graddau a darparu llwybrau at y lefel sgiliau ac addysg sydd ei hangen ar Gymru i gystadlu ar lwyfan rhyngwladol.
"Yn olaf, mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod yn cyflwyno cymwysterau sy’n addas i’r diben. Mae’n rhaid i gymwysterau fod yn hyblyg a symud gyda’r oes fel eu bod yn ymateb i anghenion cymdeithas ac economi newidiol.”
Ychwanegodd Mr Cuthbert y bydd yn enwi’r unigolyn fydd yn arwain yr adolygiad yn ogystal ag enwau aelodau’r grŵp cynghori fydd yn ei gynorthwyo. Bydd yn gwneud y cyhoeddiad yn fuan.
“Byddaf yn gofyn i’r grŵp gyflwyno adroddiad terfynol erbyn yr hydref nesaf,” meddai.
“Fodd bynnag, bydd sawl cam i’r adolygiad ac rwy’n edrych ymlaen at wneud rhagor o gyhoeddiadau ynghylch ei ddatblygiad dros y misoedd nesaf.”
Llun: Jeff Cuthbert