Mwy o Newyddion

RSS Icon
16 Medi 2011
Karen Owen

Galw am lais cryfach i lenyddiaeth

FE all llenyddiaeth wneud gwahaniaeth i fywyd pobl Cymru, yn ôl un o gadeiryddion yr asiantaeth sy’n ariannu digwyddiadau yn ymwneud ag ysgrifennu a darllen.

Ar drothwy cynhadledd flynyddol Llenyddiaeth Cymru yng Nghastell y Waun yfory (Sadwrn, Medi 17), mae’r Dr Harri Pritchard Jones am weld y ffurf yn cael “llais cryfach, mwy unedig… ym mywyd diwylliannol ein gwlad”, ac mae am weld, hefyd, llenyddiaeth yn ysbrydoli’r genedl.

“Mae’n amlwg yn wir fod opera a cherddoriaeth gerddorfaol yn ddrutach i’w cynnal nag ysgrifennu creadigol,” meddai, “ond does dim rhaid iddyn nhw fod â llais pwysicach.

“Erbyn hyn mae llais celfyddyd gain a cherddoriaeth bron yn groch yn llysoedd nawdd celfyddyd, ac mae dirfawr angen codi llais dros lenyddiaeth. Dyna ydi’n bwriad ni."

I ddarllen mwy CLICIWCH YMA

Rhannu |