Mwy o Newyddion
Y frwydr dros S4C i barhau ar ôl colli pleidlais agos
Mae ymgyrchwyr iaith wedi addo brwydro ymlaen dros ddarlledu Cymraeg ar ôl colli cais i achub S4C o 1 bleidlais yn Nhŷ'r Cyffredin heddiw.
Mynegwyd siom am benderfyniad Glyn Davies AS (Ceidwadwr, Sir Drefaldwyn) a Stephen Crabb AS (Ceidwadwr, Preseli Penfro) oherwydd iddynt anwybyddu barn eu cyd-Aelodau Seneddol Ceidwadol a feirniadodd y cwtogi a'r newidiadau i'r sianel mewn adroddiad trawsbleidiol yn gynharach eleni.
Enillwyd y bleidlais ymysg Aelodau Seneddol o Gymru ar y pwyllgor o dair pleidlais i ddwy. Dim ond pleidleisiau ASau o Loegr sicrhaodd fwyafrif bychan i'r Llywodraeth.
Fe ddywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Er gwaethaf y consensws eang yng Nghymru sy'n gwrthwynebu'r cynlluniau hyn, mae pleidleisiau ASau o Loegr wedi llwyddo i wthio'r cynlluniau trwyddo. Mae democratiaeth Brydeinig wedi ein bradychu.
"Er hynny rhaid i ni ddal ati gyda'r frwydr i sicrhau dyfodol ein sianel deledu Cymraeg er gwaethaf cynlluniau a frysiwyd gan y llywodraeth fydd yn golygu eu bod yn arbed 94% o'r arian yr oeddynt yn ei wario ar S4C a rhoi'r sianel dan y BBC.
"Rydym wedi ymgyrchu dros S4C newydd o'r dechrau felly yr her i'r sianel nawr a'r sawl sy'n gweithio iddi yw i sefyll i fyny ac ymladd dros ei dyfodol."
Torrodd Bethan Williams ar draws y gweithgareddau wedi'r bleidlais gan weiddi 'Mae hyn yn sarhad ar bobl Cymru cyn cael ei hebrwng o'r ystafell.
Llun: Bethan Williams