Mwy o Newyddion
Plaid Cymru yn datgelu pryderon iawndal ar gyfer cyn-lowyr
Mae ymchwil a wnaed gan Blaid Cymru wedi ffeindio bod mwy na 600 o gyn-lowyr yng Nghymru wedi marw cyn iddynt dderbyn iawndal ar gyfer cyflwr a deilliodd o flynyddoedd o wasanaethu’r diwydiant glo.
Rhyddhawyd ffigyrau’r cynllun iawndal Dirgryniad bys gwyn(DBG) gan adran Ynni a Newid Hinsawdd y llywodraeth yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth gan Blaid Cymru. Mae’r ymatebiad oddi-wrth llywodraeth SanSteffan yn dangos bod 645 o gyn-lowyr wedi marw cyn derbyn eu hiawndal.
Mae cyflwr dirgryniad y bys gwyn yn cael ei achosi gan amlaf o achos defnyddio offer pwerus yn gyson ac yn ailadroddus ac mae’n arwain at ddiffyg cyflenwad gwaed i’r bysedd sydd yn gallu peri i’r bysedd fynd yn ddideimlad. Gall yr ymyrraeth ar y cyflenwad gwaed hefyd achosi’r bysedd i fynd mewn i sbasm. Os nad yw’r cyflwr yn cael ei fonitro gall arwain at ddatblygu wlserau ar y croen.
Byddai nifer o lowyr wedi datblygu’r cyflwr o achos eu defnydd cyson o ddriliau niwmatig o dan y ddaear i gloddio’r glo.
Mae dadansoddiad rhanbarthol o daliadau iawndal gan etholaethau Seneddol Cymru yn dangos bod mwy na £ 8,400,000 wedi’i dalu i ddioddefwyr DBG yn etholaeth Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn unig. Talwyd dros £6 miliwn hefyd i gyn-lowyr yn etholaeth Llanelli o dan yr un cynllun.
Ym Mhreseli talwyd dros £91, 000 allan ac yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Penfro talwyd dros £55,000 allan gan Lywodraeth SanSteffan.
Daeth y cynllun iawndal DBG, ynghyd â chynllun clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (CRhCY) i fodolaeth er gwaetha’r gwrthwynebiad cryf yn y llysoedd gan y Llywodraeth Lafur ar y pryd. O dan y cynllun CRhCY, fe bu i 3,253 o gyn-lowyr farw wrth aros am eu setliadau iawndal.
Ar ôl i lywodraeth Lafur golli’u hachos yn erbyn Undeb y NACODS yn yr uchel lys yn Ionawr 1998 – yn llai na 12 mis ar ôl i Tony Blair fod wrth y Llyw yn 10 Downing street – roedd gweinyddu gwael ac adnoddau annigonol yn adran hawliadau gwaith ac arian yn golygu bod ‘na oedi pellach wedi digwydd wrth dalu’r iawndal i’r dioddefwyr.
Dywedodd AC Plaid Cymru Simon Thomas bod hyn yn ‘warthus bod yn rhaid i lowyr sâl aros mor hir, ac mewn rhai achosion marw heb dderbyn yr hyn oedd yn iawn iddynt, eu hiawndal gan y lywodraeth yn Llundain.
Dywedodd AC Canolbarth a Gorllewin Cymru: “Aeth nifer o gyn-lowyr i’w gwelyau angau tra bod y Llywodraeth yn Llundain yn llusgo’u traed dros dalu iawndal y cynllun dirgryniad y bys gwyn a chynllun iawndal clefyd y frest.
“Mewn nifer o achosion roedd swm yr arian a oedd yn ddyledus wrth dalu iawndal i gyn-lowyr yn anferth. Gall yr arian hynny wedi dod â rhyddhad a llawenydd i fywydau nifer ohonynt wrth dawelu’u meddyliau bod eu teuluoedd yn ddiogel yn ariannol ar ôl eu marwolaeth.
“Roedd yr holl ddadlau cyfreithiol ac yna annigonolrwydd yr adnoddau a llusgo traed yn gyffredinol yn y broses o dalu iawndal yn golygu bod cyn-lowyr wedi cael eu gwadu o’r boddhad o dderbyn eu hiawndal cyn marw. Mae hynny’n warthus ac ni ddylwn anghofio amdano. Dim ond Plaid Cymru all sicrhau nad yw pobl yn cael dianc o’u cyfrifoldebau gyda’r fath addewidion gwag.”
Ychwanegodd Rhodri Glyn Thomas AC Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr: “Mae’n drasig bod ein hadnoddau dynol wedi cael eu defnyddio gan eraill, tra bod yn rhaid i ni ddod i delerau gyda’r sefyllfa ôl-ddiwydiannol.
“Roedd ymdriniaeth lywodraeth flaenorol Llafur San Steffan o’r cyn-lowyr, nifer ohonynt yn cefnogwyr taer y Blaid Lafur, yn siomedig ac yn dangos nad yw egwyddor nac addewidion yn bethau y gellid ei gymryd yn ganiataol gydag arweinyddiaeth y blaid lafur yn dilyn etholiad llwyddiannus.
“Nid yw Carwyn Jones a’i lywodraeth leiafrifol yn gallu cynrychioli pobl Cymru ar lefel y DU a sicrhau cyfiawnder i Gymru.”
Daeth adroddiad a gyhoeddwyd yn 2007 gan y Swyddfa Archwilio Genedlaethol i mewn i’r cynllun COPD a’r cynllun Bysedd Gwyn i’r casgliad: “Pan fydd yr hawliadau terfynol wedi cael eu rhyddhau, bydd yr Adran (Adran Busnes, Menter a Diwygio Rheoleiddio) wedi setlo dros dri chwarter miliwn a mwy o achosion.
“Byddai hyn yn ei hun yn gyflawniad o bwys, ond efallai y gallai’r adran wedi cyflwyno’r cynlluniau yn gyflymach ac yn fwy cost effeithiol pe bai wedi paratoi’n well ar adeg y dyfarniadau llys ac yn fwy yn enwedig yn ystod cyfnod trawsnewid o gyfrifoldeb o’r gorfforaeth.
“Cynhyrchodd yr adran trosolwg strategol cyfyngedig neu gynllunio ymlaen llaw ar sut y byddai’n ymdrin ag unrhyw drafferthion atebolrwydd ac adnoddau annigonol a ddyrannwyd i unrhyw dasg.
Roedd y diffyg paratoi wedi gwneud pethau’n anoddach i’r adran a golygodd bod y gwaith gweinyddu yn hynod gymhleth, angen ymdrech arwyddocaol i’wneud yn iawn am rhwystredigaeth a thristwch y rheiny oedd yn ceisio iawndal."
Llun: Simon Thomas AC