Mwy o Newyddion
Yr UE yn rhoi hwb i brosiect gwyddorau morol Cymru
Heddiw cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Rhaglenni Ewropeaidd, Alun Davies AC, fod busnes yng Nghymru yn mynd i gael £80,000 i helpu unigolion dawnus a mentrau i sicrhau twf yn sector gwyddorau morol Cymru, gan greu 20 o swyddi newydd.
Mae Grŵp Gwyddor Môr y Bont ym Mhorthaethwy wedi cael rhagor o gymorth i ddatblygu ei brosiect £2.5 miliwn sydd wedi ennill gwobrau, Twf yng Ngwyddorau Amgylchedd y Môr (GEMS), yn y De-ddwyrain. Mae'r prosiect eisoes wedi cael cymorth Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru i helpu mentrau ledled y Gogledd-orllewin i gydweithio i gynyddu eu cyfleoedd busnes byd-eang.
Oherwydd ei lwyddiant o ran datblygu talent newydd a chryfhau'r clwstwr morol presennol yn yr ardal, bydd yr UE yn buddsoddi rhagor o arian ynddo er mwyn cyflwyno'r gwasanaeth ledled y De-ddwyrain, gan gynnwys Caerdydd, Bro Morgannwg a Chasnewydd.
Bydd yr arian diweddaraf ar gyfer GEMS yn helpu i roi cymorth ymarferol i 140 o unigolion a mentrau, gan greu 20 o swyddi newydd, yn sgil y gweithgarwch ychwanegol ymhlith y busnesau sy'n derbyn y gwasanaeth.
Dywedodd Mr Davies: "Rydyn ni am ddatblygu economi gref sy'n seiliedig ar wybodaeth, a chlystyrau busnes dynamig sydd o fewn cyrraedd y byd i gyd. Dw i wrth fy modd ein bod ni, drwy reoli adnoddau'r UE yn llwyddiannus, yn gallu buddsoddi mewn mentrau sy'n meithrin diwylliant o arloesi ac yn hyrwyddo twf rhanbarthol."
Enillodd GEMS wobr RegioStars yr UE ym mis Mehefin 2011. Mae hon yn wobr sy'n anrhydeddu mentrau mwyaf arloesol Ewrop, gan gydnabod cyfraniad y cwmni at y gwaith o ddatblygu clwstwr busnes cryf i helpu sector gwyddorau morol Cymru.
Dywedodd Cyfarwyddwr Grŵp Gwyddor Môr y Bont, Paul Freeman: "Mae'r prosiect GEMS wedi bod yn llwyddiant ysgubol yn y Gogledd-orllewin ac mae'n gam naturiol i ni gyflwyno'r prosiect i ardaloedd eraill.
"Nawr, gyda chymorth arian Ewropeaidd, bydd GEMS yn cefnogi'r sector morol yn y De-ddwyrain, gan helpu'r busnesau hynny i ddod ynghyd fel clwstwr pwerus i gynnig ffyrdd dynamig o ddatrys problemau i'r byd."
Bydd y prosiect GEMS hefyd yn gweithio'n agos gydag Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau, a fydd yn caniatáu i fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd wneud gwaith ymchwil morol ymarferol.
Dywedodd Paul Freeman: "Drwy gydweithio gyda nifer o grwpiau, mae'r prosiect yn gallu cynnig dull mwy cyfannol drwy helpu'r Busnesau Bach a Chanolig sy'n gweithio yn y sector morol ar hyn o bryd yn ogystal â'r unigolion sydd am ddechrau eu busnes eu hunain a'r rheini sy'n chwilio am swydd neu leoliad gwaith."
Dywedodd Cyfarwyddwr Gyrfaoedd a Gwasanaethau Cyflogwyr Prifysgol Caerdydd, Les Rees, fod y prosiect yn ychwanegu gwerth i gyfleoedd gwaith myfyrwyr.
Dywedodd: "Mae cyflogadwyedd yn uchel ar agendâu'r Llywodraeth ac Addysg Uwch. Mae'r prosiect GEMS yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr digymar i'n myfyrwyr a'n graddedigion, a fydd yn eu helpu i gael swydd, gan ganiatáu i gyflogwyr ymgysylltu ag unigolion dawnus a allai 'wneud gwahaniaeth' i'w busnes."
Hyd yma, mae GEMS wedi helpu dros 100 o raddedigion i lwyddo mewn busnes ac mae wedi bod yn rhan o ystod o fentrau, gan gynnwys menter i hyrwyddo'r prosiect ymchwil 'RoboCod' a fydd o bosib yn dod o hyd i lygredd yn y dyfroedd o amgylch arfordir Cymru. Mae hefyd wedi helpu llawer o Fusnesau Bach a Chanolig i gydweithio a sicrhau gwaith yng Nghymru, Ewrop a gweddill y byd.
Hyd heddiw, mae cyfanswm buddsoddiad o dros £3.1 biliwn (£1.5 biliwn gan yr UE) wedi'i ddyrannu i brosiectau'r UE ledled Cymru.
Hyd yn hyn, mae'r prosiectau hyn wedi helpu dros 226,000 o bobl, a llwyddodd 65,000 o'r rhain i gael cymwysterau a 28,300 i gael swydd. Mae dros 7,600 o swyddi a 1,700 o fentrau newydd wedi'u creu.