Mwy o Newyddion
Cartref newydd i gatiau enwog y Vetch
Mae gan gatiau enwog y Vetch, a oedd unwaith yn sefyll yn y fynedfa i'r hen gae pêl-droed, gartref newydd.
Mae Cyngor Abertawe wedi trefnu i'r gatiau gael eu cludo i safle arfaethedig Ysgol Ragoriaeth yr Elyrch yng Ngland?r lle gallent fod yn atyniad yn y dyfodol.
Mae'r pyst gôl a oedd yn y Vetch hefyd wedi'u cludo i'r un safle ac mae nodweddion megis hen gatiau troi wedi cael cartref newydd yn Amgueddfa Abertawe.
Mae un o'r gatiau troi nawr i'w gweld yn yr amgueddfa fel rhan o arddangosfa barhaus am hanes yr Elyrch.
Meddai'r Cyng. Chris Holley, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Cyfrannodd y Vetch yn sylweddol at hanes chwaraeon Abertawe ond mae'r Elyrch bellach wedi symud i Stadiwm Liberty ac mae eu datblygiad ers symud yno'n glir i bawb ei weld.
"Ond mae'n bwysig ein bod yn cadw cynifer o atgofion o'r Vetch â phosib ac mae trosglwyddo eitemau megis y gatiau i leoliad arall i'w harddangos yn newyddion gwych. Mae'n ein helpu i gofio'r holl amserau da yn y Vetch wrth edrych i'r dyfodol."
Mae gwaith dymchwel a thirlunio a oedd yn bosib oherwydd grant gwerth £700,000 gan Lywodraeth Cymru wedi'i gwblhau ar hen safle'r Vetch.
Rhoddwyd safle'r Vetch ar y farchnad yn gyntaf yn 2009 ond prin oedd y diddordeb gan ddatblygwyr i wireddu'r prif gynllun a baratowyd gan Gyngor Abertawe oherwydd yr amodau economaidd ansicr.
Mae prif gynllun ar gyfer y safle'n cael ei ystyried cyn ail-farchnata'r tir i gynnig cynllun mwy ymarferol i ddatblygwyr mewn ymgais i ddiogelu cyfle i ailddatblygu yn y dyfodol.
Caiff ardaloedd tyfu bwyd eu sefydlu ar y safle yn y tymor byr.
Meddai'r Cynghorydd Holley, "Rydym wedi cytuno y gall ardaloedd tyfu bwyd gael eu sefydlu yn y tymor byr ar dir y Vetch ond mae hyn yn fesur dros dro cyn ystyried ailddatblygu'r safle.
"Bydd y cynllun dros dro yn caniatáu i'r tir gwag gael ei ddefnyddio mewn ffordd sy'n fanteisiol i'r gymuned nes y bydd cynigion ar gyfer datblygu'r safle'n dod i'r adwy. Bydd y prosiect dros dro'n rhoi cyfle i bobl mwynhau ymarfer corff a natur wrth dyfu eu bwyd eu hunain a bydd hefyd yn caniatáu sesiynau addysg ar faterion amgylcheddol megis ailgylchu a draenio cynaliadwy.
"Bydd yn brosiect arddangos a fydd yn cynyddu ymwybyddiaeth am y potensial i gymunedau dyfu bwyd ar draws y ddinas."